Newidiadau mawr i Radio Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae Tommo, Sh芒n Cothi a Dylan Jones yn ganolog i amserlen newydd Radio Cymru

Mae golygydd rhaglenni Radio Cymru, Betsan Powys, wedi cyhoeddi newidiadau lu i amserlen yr orsaf.

Wrth gyhoeddi ei gweledigaeth ar gyfer dyfodol yr orsaf, dywedodd mai Radio Cymru oedd "Llais Cymru" a'i bod yn adlewyrchu'r genedl gyfan a bywydau pobl ar draws Cymru.

Fe ddaw'r newidiadau yn dilyn sgwrs genedlaethol a gynhaliwyd yn gynharach eleni er mwyn clywed barn pobl ar draws Cymru ar yr orsaf.

Pwysleisiodd Betsan Powys bod "sain gerddorol" yr orsaf yn rhywbeth fydd yn bwysig hefyd.

Roedd Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod y cyhoeddiad yn profi'r angen i sefydlu darparwr Cymraeg annibynnol yn ychwanegol at ddarpariaeth y 91热爆.

Cyflwynwyr newydd

Ymhlith y newidiadau mwyaf trawiadol fe fydd Tommo a Sh芒n Cothi yn ymuno 芒'r orsaf fel cyflwynwyr - Shan Cothi rhwng 10 a 12 y bore, a Tommo rhwng 2 a 5 y prynhawn o ddydd Llun i ddydd Iau.

Fe fydd rhaglen y Post Cyntaf yn newid hefyd ar 么l 8:00 y bore, pan fydd Dylan Jones yn parhau i ddarlledu gyda rhaglen newydd o 8 tan 10.

Fe fydd rhaglen Dafydd a Caryl felly yn diflannu o'r orsaf y gwanwyn nesaf.

Wrth wneud ei chyhoeddiad i staff yr orsaf ddydd Iau, fe dalodd Betsan Powys deyrnged i'r cyflwynwyr hynny na fydd yn cael eu clywed mor aml ar yr orsaf, gan ddiolch iddyn nhw am eu hymroddiad a'u gwaith caled.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Betsan Powys bod angen ehangu ap锚l yr orsaf

'Ehangu'r ap锚l'

Amlinellodd hi sut y byddai'r newidiadau yn ehangu ap锚l yr orsaf:

"Yn y dyfodol, dyma fydd neges Radio Cymru i chi: os y'ch chi am glywed rhywbeth newydd am y Gymru ry'ch chi'n byw ynddi, a'r byd mae'n rhan ohono, dewch at Radio Cymru yn y bore.

"Dewch aton ni amser cinio i herio, neu gyfoethogi'r hyn ry'ch chi'n gwybod yn barod. Fe fydd lle pwysig i holi a phrocio - adlais arall gwerthfawr o'r gorffennol - yn s诺n yr orsaf dros ginio.

"Yn y prynhawn, joiwch gyda ni. Dewch i gael dipyn bach o sbort, cystadlu, canu, dychan a chwerthin yng nghwmni Radio Cymru.

"Ar 么l awr o newyddion - a phigion y gorau o ddarlledu'r dydd - dewch i drio rhywbeth newydd, arbenigol, apelgar, cyn noswylio gyda'r cyfarwydd.

"Ehangu'r ap锚l amdani felly, a derbyn na fydd pob rhaglen yn apelio at bawb. Ond fe fydd pob un yno i bwrpas, i apelio at rywun. Fe fydd pob math o leisiau ar yr orsaf, pob un yn hoff lais i rywun, a phob un yn siarad Cymraeg rhywun.

"Os gallwn ni'ch darbwyllo chi i aros gyda ni drwy'r dydd, wrth i ni ddarlledu o Fangor, Caerdydd, Caerfyrddin ac Aberystwyth - Bonws! Fe wnawn ni'n gorau".

'Cap i Gymru'

Tommo - sef enw darlledu Andrew Thomas o Aberteifi - fydd un o brif leisiau newydd yr orsaf ynghyd 芒'r ddarlledwraig genedlaethol Sh芒n Cothi. Dywedodd Tommo:

"Mae cael sioe ar Radio Cymru fel ennill cap i Gymru - fi wedi gweithio'n galed i'r t卯m lleol a nawr fi'n cael ware i'r t卯m cenedlaethol! Mae'n ffantastic! Fi'n edrych ml芒n dod i nabod pawb a chwrdd 芒 ffans Radio Cymru! Fi mhoen cael lot o hwyl a chwerthin a cherddoriaeth ar y sioe newydd a neud yn si诺r bod pawb yn joio - fi ddim yn mynd i adael t卯m Cymru lawr!"

Pwysleisiodd Betsan Powys bod meithrin 'sain gerddorol' i'r orsaf yn holl bwysig i lwyddiant Radio Cymru.

"Gyda help llaw t卯m Radio Cymru, dwi am weld yr orsaf yn magu 'sain gerddorol' sy'n gyson, heb fod yn undonog, yn amrywiol heb fod yn fratiog ac anesmwyth i chi sy'n gwrando.

"Roedd honno'n neges gref ddaeth o'r Sgwrs. Fe fydd Radio Cymru'n parhau i fod yn gyrchfan i'r rheiny sydd am glywed cerddoriaeth newydd, a'r gorau - a dim ond y gorau - o'r caneuon hynny'n cael eu cyflwyno i chi, a'u dathlu yn ystod y dydd.

"Y tu hwnt i'r oriau brig fe fyddwn ni'n arbenigo, yn arloesi ac yn cynnig rhywbeth cerddorol gwahanol.

"Byrdwn y Sgwrs oedd y dylai Radio Cymru fod yn orsaf sy'n chwarae cerddoriaeth Gymraeg yn bennaf. Mae lle, meddech chi, i beth cerddoriaeth Saesneg ond ddim gormod. Felly y bydd hi."

'Ail orsaf?'

Dywedodd hefyd ei bod hi wedi rhoi ystyriaeth gref i'r cwestiwn mawr arall a gododd yn ystod y Sgwrs, sef a oedd angen ail orsaf genedlaethol?

"Yn bersonol, dwi o'r farn y byddai cael ail orsaf genedlaethol Gymraeg - o ba gyfeiriad bynnag y dele honno, boed y 91热爆 芒 rhan yn ei sefydlu a'i rhedeg hi ai peidio - yn llesol i Radio Cymru.

"Ond waeth bod yn onest a chlir o'r dechrau. Mae cyllideb 91热爆 Cymru i ddarlledu yn Gymraeg a Saesneg wedi crebachu'n sylweddol, ac er bod DAB, sef radio digidol, yn raddol gyrraedd mwy a mwy o gymunedau ac yn rhoi cyfle i ni rannu'r gwasanaeth bob hyn a hyn, dyw'r dechnoleg honno ddim yn cynnig ateb hawdd.

"Drwy donfedd FM mae trwch gwrando Radio Cymru yn digwydd, a'r tebyg yw mai fel hyn y bydd hi am beth amser i ddod."

'Problem sylfaenol'

Mewn datganiad, dywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod y newidiadau "yn profi bod angen sefydlu darparwr Cymraeg annibynnol newydd yn ychwanegol at ddarpariaeth y 91热爆".

Dywedodd Greg Bevan llefarydd digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Dyw'r newidiadau hyn ddim yn newid problem sylfaenol yr orsaf, sef y ffaith na all un orsaf ddim diwallu holl anghenion y gynulleidfa.

"Rydyn ni'n croesawu sylwadau personol Betsan Powys am ei chefnogaeth i'r ymgyrch dros ddarparwr arall. Ond mae ei sylwadau hefyd yn tanlinellu diffyg uchelgais a gweledigaeth ehangach y 91热爆 fel corfforaeth.

"Allwn ni ddim ymddiried yn y 91热爆 i sicrhau dyfodol darlledu yn Gymraeg -- mae hi wedi trin ei gwasanaethau Cymraeg yn eilradd i'r rhai Saesneg ers degawdau.

"Byddwn ni felly yn ymgyrchu dros sefydlu darlledwr aml-gyfryngol ychwanegol newydd a fydd yn rhydd o geidwadaeth a diffyg uchelgais y 91热爆."

'Adlewyrchu gweithgarwch'

Ychwanegodd Betsan Powys yn ei chyhoeddiad:

"Bydd gweithgarwch Radio Cymru yn cael ei adlewyrchu gan Cymru Fyw. Ydi, mae'n gyd-ddigwyddiad hapus a chynhyrchiol.

"Mae gwrando dros y we hefyd yn cynnig dewis. Gyda hynny mewn golwg, mi rydw i wedi dechrau archwilio a oes modd creu 'jiwc-bocs' cerddoriaeth Gymraeg ar y we - un porth i'r gerddoriaeth Gymraeg orau, bedair awr ar hugain y dydd, saith niwrnod yr wythnos.

"Os bydd pobol Radio Cymru'n teimlo mai nhw piau'r cyfrwng yn y dyfodol, dyna i fi fydd mesur pwysig iawn o lwyddiant".

Ond roedd Cymdeithas yr Iaith yn anhapus am hynny, a dywedodd Greg Bevan:

"Mae menter 'Cymru Fyw' yn ddyblygiad o rywbeth sy'n digwydd ar draws holl wledydd Prydain. Dydyn ni ddim yn gweld llawer i'w groesawu yn y penderfyniad i beidio ag eithrio'r Gymraeg o gael blog ychwanegol fel sy'n digwydd yn 'rhanbarthau' eraill Prydain."