Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Allbwn economaidd y DU i fyny 0.8%
Mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod economi'r DU wedi tyfu 0.8% yn ystod trydydd chwarter 2013.
Amcangyfrif cychwynnol yw hwn, ac mae rhai economegwyr yn disgwyl y bydd y ffigwr terfynol yn uwch.
Roedd yna beth twf ym mhob sector, gyda ffigyrau ar gyfer adeiladu i fyny 2.5% yn ystod y chwarter, yr ail chwarter o'r bron i'r sector adeiladu dyfu wedi perfformiad anwastad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Yn 么l y Canghellor George Osborne: "Mae hyn yn dangos bod gwaith caled Prydain yn talu ac mae'r wlad ar y llwybr i ffyniant."
Dywedodd llefarydd yr Wrthblaid ar Gymru, Owen Smith:
"Rydym yn gwybod bod si芒r Llundain a'r De Ddwyrain o dwf wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf tra bod si芒r gweddill y DU, gan gynnwys Cymru wedi syrthio ar ei h么l hi."
Ychwanegodd na ddylai Llywodraeth y DU fodloni ag "adferiad sy'n anghytbwys o safbwynt rhanbarthol".
Dywedodd Jonathan Edwards, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi: "...yng Nghymru, mae prisiau tai yn dal i ddisgyn ac y mae diweithdra 40,000 yn uwch o hyd na chyn y dirwasgiad."
Dywedodd Mr Edwards fod angen "cofnod cywir" o GDP Cymru neu "fyddwn ni fyth yn gwybod beth yw hynt ein heconomi."
Yn gynharach, cyhoeddodd 91热爆 Cymru ganlyniadau arolwg barn oedd yn awgrymu mai dim ond 1 o bob 7 o bobl Cymru sy'n credu y bydd ganddyn nhw fwy o arian yn eu pocedi dros y ddwy flynedd nesaf.
Diffyg Hyder
Yr adeg yma'r llynedd roedd economi'r DU yn crebachu ond ers dechrau'r flwyddyn mae'r ffigyrau GDP - cyfanswm gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau sy'n cael eu cynhyrchu - wedi bod yn tyfu'n raddol.
Er hynny roedd mwyafrif helaeth y rhai gafodd eu holi ar gyfer yr arolwg yn credu na fydd ganddyn nhw ragor o arian yn eu pocedi ar 么l talu eu prif filiau.
Doedd traean o'r bobl gymrodd ran yn yr arolwg ddim y credu y bydd Cymru yn elwa'n sylweddol o unrhyw adferiad economaidd ar draws y Deyrnas Unedig.
Holodd cwmni ICM 750 o bobl ar draws Cymru ar gyfer yr arolwg.
Ymateb
Wrth ymateb i'r ffigyrau diweddaraf dywedodd cadeirydd uned bolisi Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru Janet Jones:
"Mae'r ffaith bod yr amcangyfrif cyntaf yn dangos fod GDP y DU wedi codi o 0.8% yn y trydydd chwarter yn cyd-fynd 芒'n Mynegai Busnesau Bach ni sy'n dangos bod cwmn茂au bach yn fwyfwy hyderus am y dyfodol.
"Ond er ein bod yn gwybod o'n harolygon ein hunain bod cwmn茂au bach Cymru ar eu mwyaf hyderus ers tair blynedd, dyw ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ddim yn dweud llawer am berfformiad economi Cymru.
"O ystyried hynny rydym yn galw eto am ystadegau economaidd iawn i Gymru, sef rhywbeth yr ydym yn credu fydd yn hanfodol os fydd Llywodraeth Cymru'n cael pwerau ariannol."