Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dim enwau mawr ar restr Gwobr Cerddoriaeth Gymreig
Does yna ddim rheswm penodol pam nad oes yna albwm Gymraeg wedi cyrraedd rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni meddai un o'r trefnwyr.
Mae John Rostron yn dweud bod un wedi dod yn agos ond mai dim ond lle i 12 sydd yna ar y rhestr. Ymhlith y rhai sydd wedi eu dewis mae dwy sydd efo rhai caneuon Cymraeg ar eu halbwm sef Georgia Ruth a Trwbador. Mae'r gweddill o'r cerddorion yn canu yn Saesneg.
"Dw i ddim yn gwybod am eleni ond does 'na ddim enwau mawr wedi bod ar y rhestr eleni chwaith. Ydy hynny yn golygu bod yr enwau mawr ddim wedi deliferio cystal eleni? Dyw Joy Formidable ddim wedi cyrraedd y 12 olaf na Sterephonics ac mae albwm Sterephonics, mae e yn albwm cryf, un o'r rhai cryfaf ma nhw wedi rhyddhau ers amser maith."
Dyma'r drydedd waith i'r wobr gael ei chynnal. Bydd y seremoni yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd nos Iau.
"Gwerthu mwy"
Yn 么l John Rostron, prif weithredwr y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig ac yn un o drefnwyr g诺yl S诺n, nid dim ond esgus i gael parti ydy'r noson.
"Mae e yn gwneud gwahaniaeth. Yr hyn ni yn gweld bob blwyddyn ydy bod yr artistiaid i gyd wedi gwerthu mwy o recordiau. Felly mae jest hynny ei hun yn rhywbeth ni yn gweld fel llwyddiant.
"Yn y flwyddyn gyntaf mi wnaethon ni weld Gruff [Rhys] yn ail becynnu ei albwm o ac yn ei chyflwyno hi fel albwm oedd wedi ennill y wobr gerddoriaeth Gymreig.
"Mae hwnna ei hun dw i'n meddwl wedi gweithio. Ni wedi gweld cerddorion wedi datblygu, yn cael rheolwyr, yn cael label. Sweet Baboo, ma nhw nawr gyda label a odd y dyn yn un o'r beirniaid y flwyddyn gyntaf a ni yn meddwl bod hwnna yn rhan o'r broses."
Mae tua 100 o feirniaid yn dewis y rhestr fer. Mae'n rhaid iddyn nhw ddewis eu 5 albwm gorau yn ystod y flwyddyn a'u rhifo o 1-5 ac mae hynny yn helpu'r trefnwyr i ddewis y rhestr fer. Os nad ydy'r beirniaid yn rhoi eu dewisiadau i'r trefnwyr maen nhw'n cael cyfle i wneud eto mewn dwy flynedd.
Y nod meddai John Rostron ydy ehangu ar nifer y beirniaid. Mae'n ffyddiog y bydd 150 o bobl sydd yn gweithio yn y maes cerddoriaeth yn dewis y rhestr fer y flwyddyn nesaf.
12 o bobl sydd wedyn yn dewis yr enillwyr.
"Fi a Huw [Stephens] sydd yn dewis y beirniaid cyn bod y rhestr fer wedi ei gwneud a ni yn trio dewis tua 6 o bobl. Ni eisiau bod hanner ohonyn nhw yn gweithio yng Nghymru a hanner tu fas i Gymru.
"Ni yn gweld hwnnw fel rhan o'r broses, rhan o'r cyflwyno. Ni eisiau iddyn nhw gyfarfod ei gilydd. Ni eisiau rhywun sydd yn hybu cerddoriaeth yng Nghymru i gyfarfod asiant yn Llundain. So ni rili go iawn eisiau iddyn nhw wneud busnes gyda'i gilydd."
Cowbois yn agos y llynedd
Er nad oes yna ddim albwm Cymraeg wedi cyrraedd y rhestr fer eleni mae'n dweud nad dyna ydy'r sefyllfa yn y gorffennol.
Y llynedd roedd band Cymraeg wedi dod yn agos iawn at gipio'r teitl sef Cowbois Rhos Botwnnog.
"Fi'n cofio'r llynedd odd yr albwm yna yn rili agos. Odd e rili yn agos ac mi odd hwnna yn gynhyrfus iawn.
"Os chi yn erbyn Cate le b么n a Future of the Left, pobl sydd yn cael eu cydnabod yn eang iawn ac yn gwneud yn dda yn yr NME, MOJO, beth bynnag, ma'n gr锚t i weld rhywbeth fel na."