Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
91热爆 ac EOS: datganiadau cloi
Mae tribiwnlys hawlfraint gafodd ei gynnal er mwyn penderfynu faint ddylai'r 91热爆 dalu cerddorion Cymraeg wedi gorffen clywed tystiolaeth yn llys y goron Caernarfon.
Bydd tri o aelodau'r tribiwnlys yn cyhoeddi eu casgliadau nhw ymhen ychydig wythnosau a fydd yn datgan y gwerth maen nhw wedi penderfynu dylid eu rhoi i asiantaeth Eos sydd yn cynrychioli rhai cerddorion Cymraeg.
Roedd rhoi o aelodau Eos megis Bryn F么n a Dewi Pws Morris yn y llys i glywed y cyflwyniadau olaf gan fargyfreithwyr Eos a'r 91热爆.
拢1.5 miliwn
Dywedodd Gwion Lewis sydd yn cynrychioli Eos fod "dyfodol diwylliant cerddoriaeth" yn nwylo'r tribiwnlys ac y dylai'r 91热爆 dalu ffi flynyddol o 拢1.5 miliwn er mwyn cael yr hawl i chwarae caneuon yr aelodau.
Roedd yn dod i'r casgliad y dylid talu'r swm yma am fod ansawdd y gwaith yn un "premiwm" meddai a oedd yn cael eu gwneud gan nifer fach o gyfansoddwyr a'r gerddoriaeth yn cael ei ddarlledu yn bennaf ar un orsaf radio, sef Radio Cymru.
Ychwanegodd fod yna rheidrwydd ar y 91热爆 i gefnogi ieithoedd lleiafrifol ym Mhrydain a bod yna ddyletswydd ar Radio Cymru i wneud mwy nag adlewyrchu cerddoriaeth Gymraeg ar yr orsaf.
拢100,000
Dadl Lindsay Lane, bargyfreithwraig y 91热爆 oedd mai 拢100,000 oedd y swm uchaf yr oedd y gorfforaeth yn teimlo y dylai dalu yn flynyddol er mwyn cael mynediad i gasgliad Eos.
Dywedodd fod yr arian yma yn fwy na gwerth go iawn y gerddoriaeth wrth ei gymharu gyda graddfa'r farchnad ac nad oedd yna "unrhyw gyfiawnhad" am y swm yr oedd Eos yn gofyn amdano.
Yn 么l Ms Lane mae'r 91热爆 yn deall pwysigrwydd cerddoriaeth Gymraeg ar gyfer gwrandawyr Radio Cymru ac mae'r orsaf yn cefnogi ac yn buddsoddi yn y diwydiant mewn sawl ffordd.