Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dathlu pen blwydd cylchgrawn Golwg yn 25
- Awdur, Gan Huw Thomas
- Swydd, Gohebydd cyfryngau 91热爆 Cymru
Mae pen blwydd cylchgrawn Golwg yn 25 yn cael ei ddathlu mewn g诺yl arbennig yn Llanbedr Pont Steffan rhwng y 5ed a'r 7fed o Fedi.
Mae darlithoedd, cyngherddau, arddangosfa gelf a gweithgareddau i blant ar gampws Prifysgol y Drindod Dewi Sant er mwyn cofnodi'r chwarter canrif ers i gyfrol gyntaf y cylchgrawn ymddangos.
Lansiwyd y cylchgrawn yn Eisteddfod Genedlaethol 1988, gyda'r cop茂au cyntaf ar werth ar Fedi'r 8fed o'r un flwyddyn.
Erbyn hyn mae 1,250 rhifyn o Golwg wedi'u cyhoeddi, gyda'r golygydd Dylan Iorwerth wrth y llyw ers y cychwyn.
Cylchgrawn newydd
Mae Mr Iorwerth yn cofio'r her o gyhoeddi'r cylchgrawn: "Y bwriad oedd cael math newydd o gylchgrawn yn Gymraeg - un oedd yn newyddiadurol, gyda phwyslais ar luniau da, straeon da.
"Ac yna'r gwaith ofnadwy o galed o gael y rhifyn cyntaf allan, ac wedyn o wythnos i wythnos. Pan rydych chi'n gwneud rhywbeth am y tro cyntaf, wrth gwrs, mae'r gwaith cymaint 芒 hynny yn fwy anodd, ac roedd yr oriau yn o hir."
Yn Aberystwyth mae cylchgronau Golwg wedi'u hargraffu ers 1988, gyda'r t卯m golygyddol wedi'u lleoli mewn swyddfeydd ar gyrion Llambed.
Mae Dylan Iorwerth bellach yn olygydd gyfarwyddwr y cwmni, gyda chylchgronau "Wcw" i blant a "Lingo Newydd" i ddysgwyr hefyd yn cael eu cyhoeddi gan gwmni Golwg.
Yn y blynyddoedd diwethaf mae'r cwmni hefyd wedi creu "ap Golwg" er mwyn darllen y cylchgrawn ar ffonau symudol a chyfrifiaduron tabled, tra bod t卯m o newyddiadurwyr hefyd yn cynnal gwasanaeth newyddion ar-lein, .
Er i'r cwmni ehangu dros 25 mlynedd, mae Dylan Iorwerth yn dweud bod egwyddorion Golwg yr un mor gadarn ag yr oedden nhw ym 1988.
"Mae rys谩it Golwg yn rhywbeth tebyg o ran egwyddor i be oedd o reit ar y dechrau, sef trio cael y straeon da, cael cylchgrawn oedd yn edrych yn dda, lot o fywiogrwydd, a thrin popeth fel newyddion a materion cyfoes."
'Dal ei dir'
Mae gwerthiant y cylchgrawn hefyd wedi "dal ei dir", yn 么l y golygydd.
"Un peth sy'n rhyfeddol ydi bod Golwg wedi dal ei dir o ran gwerthiant reit ers y dechrau - mae wedi aros yn rhyfeddol o gyson. Ac wrth gwrs mae 'na genhedlaeth o bobl wedi mynd, felly yn amlwg rydyn ni wedi denu cenhedlaeth newydd hefyd i ddarllen," meddai Mr Iorwerth.
Mae Golwg yn gwerthu tua 3,000 o gop茂au o'r cylchgrawn bob wythnos, gyda'r uchafswm weithiau yn mynd dros 4,000 i ambell i gyfrol boblogaidd. Mae'r cwmni yn amcangyfrif bod 3 neu 4 o bobl yn darllen pob rhifyn, ac felly yn hawlio 12,000 o ddarllenwyr.
Er i'r dechnoleg newydd ysgogi'r cwmni i ddatblygu deunydd i declynnau digidol, mae un arbenigwr ar gylchgronau yn dweud bod Golwg wedi llwyddo mewn maes cystadleuol iawn.
'Cystadleuol'
Dywedodd Iestyn George, darlithydd mewn newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Solent yn Southampton: "Mae'n rhaid dweud bod 'na lot o gystadleuaeth, yn debyg iawn (i gymharu'r) Uwch Gynghrair a Chynghrair Cymru, ble mae cynhyrchwyr cylchgronau yng Nghymru yn gorfod cystadlu yn erbyn rhai o'r cwmn茂au mwyaf blaenllaw yn y byd.
"Mae hwnna'n rhywbeth anodd iawn."
Mae'r Cyngor Llyfrau Cymru yn cefnogi Golwg gyda grant flynyddol o 拢73,000. Mae Mr George yn awgrymu bod modd i Golwg dderbyn llai o arian cyhoeddus trwy godi pris y cylchgrawn yn uwch na'r 拢1.50 bresennol.
"Os edrychwch chi ar y s卯n rhyngwladol fel petai, mae cylchgronnau 'niche' yn gwerthu'n arbennig o dda y dyddiau yma.
"Mae llawer ohonyn nhw yn ymwneud 芒 dylunio, a llawer o gylchgronau ffotograffiaeth neu gylchgronau ffasiwn yn arbennig.
"Maen nhw'n llwyddiannus iawn er eu bod nhw ddim yn gwerthu lot o gop茂au, ond maen nhw'n codi pris eithaf uchel.
"Ac i fod yn berffaith onest, does 'na ddim rheswm pam na ddylai hwn ddigwydd yng Nghymru."
Mae gwefan Golwg360.com wedi bodoli ers 2009, ac yn cynnig straeon Cymreig, Prydeinig a rhyngwladol trwy gydol yr wythnos.
Dywedodd Owain Schiavone, y prif weithredwr, bod 7,000 o ymweliadau i'r wefan bob dydd, "ac mae hwnnw'n ffigwr dda iawn 'da ni'n teimlo, 'da ni'n hapus hefo hwnnw.
"Mae o'n uwch na'r hyn oeddem ni'n targedu pryd gaeth y cynllun ei lansio, ac mae o dal i gynyddu, felly mae hwnna yn rhywbeth pwysig i ni."