Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llythrennedd: Cymru ar ei h么l hi?
Mae honiad fod plant saith oed yng Nghymru yn llusgo y tu 么l i'w cyfoedion yn Lloegr o safbwynt lythrennedd, yn 么l astudiaeth diweddar.
Mae'r ymchwil ar ddata o 2007 yn dangos bod disgyblion yn y ddwy wlad wedi sgorio'n gyfartal ar gyfer rhifedd, ond mae'r bwlch mewn lefelau llythrennedd yn cynyddu wrth iddynt dyfu.
Dywedodd yr Athro Chris Taylor o Brifysgol Caerdydd bod Cymry saith oed ar gyfartaledd fis y tu 么l o ran geirfa.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod mesurau i wella llythrennedd wedi cael eu cyflwyno.
Ofni dirywiad
Mae'r Ganolfan Astudiaethau Hydredol, sy'n astudio datblygiad plant, wedi bod yn dilyn cyflawniadau addysgol 19,000 o fabanod a anwyd yn y DU yn ystod y flwyddyn 2000-2001, gyda 2,000 o'r rheiny yn dod o Gymru.
Pan gawsant eu profi yn dair oed, roedd plant yng Nghymru ar yr un lefel 芒 Lloegr o ran eu safonau llythrennedd , er bod pobl ifanc yr Alban ar y blaen.
Yn y blynyddoedd dilynol, meddai'r adroddiad, mae disgyblion Seisnig wedi neidio ar y blaen i weddill y DU o ran eu cyflawniadau llythrennedd, gyda Chymru ar ei h么l hi.
Dywedodd yr Athro Taylor, a ddadansoddodd y data, er nad oedd yr awgrym bod plant Cymru fis y tu 么l yn eu geirfa yn ymddangos yn llawer, roedd ofnau y byddai'r dirywiad mewn safonau yn parhau.
"Fe fydd yn ddiddorol pan fydd y plant hyn yn cael eu profi nesaf pan fyddant yn 10-11 oed ar ddechrau'r flwyddyn nesaf" meddai.
'Angen gwella'
Dywedodd bod angen i'r ffigurau gael eu trin yn ofalus gan fod y profion ar gyfer plant saith oed wedi cael eu cynnal yn 2007, er bod y data dim ond ar gael yn ddiweddar.
Ers hynny bu llawer o newidiadau mewn addysg yng Nghymru megis cyflwyno'r cyfnod sylfaen ar gyfer plant 3-7 oed.
Fe ddechreuodd hynny yn 2008, gan annog y disgyblion ieuengaf i ddefnyddio eu dychymyg a dysgu trwy chwarae a gweithgareddau awyr agored.
Mae yna hefyd Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, gyda'r nod o wella safonau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi bod yn "gwbl glir bod angen i safonau a pherfformiad yng Nghymru, yn enwedig mewn llythrennedd a rhifedd, wella."
Trafod camau
Mae'n dweud eu bod eisoes wedi cyflwyno mesurau i wneud i hyn ddigwydd, gan gynnwys y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, sydd wedi dod yn statudol mewn ysgolion o'r mis hwn, a phrofion darllen a rhifedd cenedlaethol.
Ym mis Mai eleni fe wnaeth disgyblion yn ysgolion Cymru sefyll y profion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol newydd am y tro cyntaf.
Mae'r profion wedi disodli'r profion a gafodd eu cynhyrchu'n fasnachol ac a ddefnyddiwyd yn flaenorol gan ysgolion.
Mae disgyblion o flynyddoedd 2 i 9 yn sefyll y profion.
"Byddwn yn defnyddio'r canlyniadau fel y sail ar gyfer trafodaethau gydag awdurdodau lleol am y camau y gellir eu cymryd i ddatrys amrywiadau a gwella perfformiad darllen a rhifedd," ychwanegodd Llywodraeth Cymru.
Yn adroddiad blynyddol Estyn - y corff arolygu ysgolion yng Nghymru - a gafodd ei gyhoeddi ym mis Ionawr, mynegwyd pryder am safon sgiliau darllen, llythrennedd a rhifedd ar draws holl sectorau ysgolion Cymru.