Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ambiwlansys: Methu targed eto
Dydy'r gwasanaeth ambiwlans ddim wedi cyrraedd y nod a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i gyrraedd 65% o achosion brys ble roedd yna fygythiad uniongyrchol i fywyd o fewn 8 munud - a hynny am y 14ydd mis o'r bron.
Ym mis Gorffennaf 2013, cyrhaeddodd 60.7% o ambiwlansys yr achosion yn y categori hwn (categori A) o fewn 8 munud - i lawr o 62.6% ym mis Mehefin.
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Darren Millar: "Dylai'r gweinidogion Llafur sy'n rhedeg ein gwasanaeth iechyd deimlo cywilydd.
"Nid yn unig y maen nhw wedi methu cyrraedd y nod i gyrraedd 65% o achosion brys ble roedd yna fygythiad uniongyrchol i fywyd o fewn 8 munud am y 14eg mis o'r bron, ond mae'r perfformiad wedi gwaethygu".
Yn 么l Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol: "Mae'r methiant parhaus hwn yn siom enfawr ac yn dangos pa mor wael y mae'r Llywodraeth Lafur wedi trin y gwasanaeth ambiwlans".