Enw newydd stadiwm Merthyr: Stadiwm Cigg-e

Mae mudiad sy'n ymgyrchu yn erbyn tybaco, Ash Cymru, wedi beirniadu penderfyniad Clwb P锚l-droed Tref Merthyr wedi ailenwi eu stadiwm ar 么l cwmni sy'n gwerthu sigarennau electroneg.

Cyhoeddodd y clwb y newyddion ar eu gwefan gan ei ddisgrifio fel "newyddion gwych" eu bod newid enw e'r cae o Parc Penydarren i Stadiwm Cigg-e.

Dywedodd rheolwr datblygu busnes y clwb Brent Carter fod ganddo "feddwl agored" ac y bydd y cytundeb yn sicrhau dyfodol y clwb.

Dim trwydded

Dyw e-sigarennau ddim wedi cael eu trwyddedu ar hyn o bryd ac mae cynlluniau ar y gweill i'w dosbarthu fel meddyginiaeth o 2016 ymlaen.

Yn ogystal mae nifer o wledydd yn bwriadu eu gwahardd yn gyfan gwbl gan nad oes digon o wybodaeth ar gael am eu heffeithiau.

Dywedodd John Jenkins o BMA Cymru: "Mae mwy a mwy o dystiolaeth fod pobl yn defnyddio'r e-sigarennau er mwyn rhoi'r gorau i ysmygu, ond eto dydyn nhw ddim yn cael eu rheoleiddio, does ganddyn nhw ddim trwydded fel meddyginiaeth yn y DU a does dim tystiolaeth gadarn eu bod yn ddiogel.

"Er fod ganddynt y potensial o leihau niwed sy'n gysylltiedig 芒 thybaco drwy helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu, mae angen sicrhau bod eu gwerthiant yn cael ei reoli a'u bod yn ddiogel, wedi eu sicrhau o ran ansawdd ac yn helpu pobl i roi'r gorau iddi.

"Tan hynny mae angen cyfyngu eu marchnata fel eu bod ond yn cael eu targedu at bobl sy'n ceisio rhoi'r gorau iddi a'u bod nhw ddim yn apelio at bobl sydd ddim yn ysmygu, yn enwedig plant a phobl ifanc."

'Anaddas'

Mae Ash Cymru wedi beirniadu Clwb P锚l-droed Merthyr a dywedodd eu prif weithredwr Elen de Lacy: "Mae'n bwysig fod e-sigarennau ond yn cael eu hanelu at ysmygwyr sy'n oedolion ac rydym yn gwrthwynebu marchnata'r cynnyrch i bobl ifanc drwy noddi stadiwm sydd i fod yn addas ar gyfer teuluoedd.

"Dyw manylion llawn y cytundeb noddi heb gael eu cyhoeddi ond byddai'n anaddas os fydden nhw'n brandio crysau'r timau ifanc.

"Mae ysmygwyr yn fwy a mwy tebygol o ddewis e-sigarennau fel ffurf l芒n o nicotin a does dim tystiolaeth fod pobl ifanc yn defnyddio'r cynnyrch ond dyw'r math yma o farchnata sydd wedi ei anelu at bobl ifanc ddim yn dderbyniol."

'Hwb i'r gymuned'

Mae rheolwr E-Ciggs Lee Woolls yn dweud fod y cwmni eisoes yn noddi clwb rygbi yng Nghaerau Caerdydd a'u bod yn awyddus i gefnogi'r gymuned leol.

Yn ogystal, mae Brent Carter yn mynnu fod y cytundeb yn mynd i fod o fudd i'r clwb.

"Mae'n dod 芒 sefydlogrwydd i'r clwb ar gyfer y tair blynedd nesaf," meddai.

"Mae gynnon ni academi gyda 180 o blant yma ac mae'n wych i'r gymuned."