91热爆 ac Eos: cynnig arian at gostau cyfreithiol

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Mae Eos yn bwriadu cynnal cyngherddau i godi arian er mwyn talu costau cyfreithiol
  • Awdur, Huw Thomas
  • Swydd, Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau 91热爆 Cymru

Mae'r 91热爆 wedi cynnig fwy o arian tuag at gostau cyfreithiol Eos, ar 么l iddynt wario'r 拢50,000 a rhoddwyd gan y gorfforaeth yn gynharach eleni i baratoi ar gyfer tribiwnlys hawlfraint.

Ym mis Medi bydd tribiwnlys yn cwrdd i glywed yr achos, ar 么l i'r naill ochr fethu a chytuno ar bris teg i chwarae cerddoriaeth aelodau Eos ar wasanaethau'r 91热爆.

Yn gynharach eleni fe gollodd y 91热爆 yr hawl i chwarae tua 30,000 o ganeuon dan reolaeth Eos am gyfnod o chwe wythnos.

Cytundeb dros dro

Ers cyrraedd cytundeb dros dro ym mis Chwefror mae'r 91热爆 wedi talu Eos 拢10,000 y mis am yr hawl i ddarlledu cerddoriaeth ei aelodau.

Ond mae Eos yn dweud na allant fforddio'r gynrychiolaeth gyfreithiol sydd ei angen er mwyn mynd i'r tribiwnlys yn yr hydref, ac mae yna gynlluniau ar y gweill i gynnal cyngherddau i godi arian tuag at yr achos yn y misoedd nesaf.

Er bod Eos yn dweud nad ydynt wedi gofyn yn uniongyrchol am fwy o arian gan y 91热爆 tuag at gostau'r tribiwnlys, mae'r gorfforaeth wedi cynnig taliadau ychwanegol.

Dwedodd Dafydd Roberts, aelod o fwrdd Eos, ei fod wedi ysgrifennu at y 91热爆 i amlinellu'r sefyllfa ariannol:

"Rydyn ni'n bwriadu cynnal gweithgareddau ym mis Medi, cyngherddau, er mwyn codi arian i ni fedru cyflogi cyfreithwyr a bargyfreithiwr, ac arbenigwr cerdd ar gyfer y gwrandawiad.

"Ar 么l egluro hyn mewn llythyr ddydd Gwener at y 91热爆, mae'r 91热爆 wedi cynnig ychydig bach mwy o arian i ni fedru cyflwyno adroddiad arbenigol, a hefyd cyflogi bargyfreithwyr, dwi'n gobeithio, ar gyfer y gwrandawiad llawn."

Mewn datganiad dwedodd y 91热爆: "Mae'r 91热爆 wastad wedi ymrwymo i ddod o hyd i gytundeb parhaol i'r anghydfod drwy'r broses Tribiwnlys Hawlfraint.

"Gwrandawiad teg"

"Yn ystod y diwrnodau diwethaf rydym wedi cynnig cefnogaeth ariannol ychwanegol i Eos er mwyn sicrhau bod ganddynt gynrychiolaeth gyfreithiol addas fel bod dadleuon eu haelodau yngl欧n 芒 gwerth masnachol eu hawliau darlledu yn cael gwrandawiad teg."

Dywedodd Mr Roberts bod cyfraniad 拢50,000 y 91热爆 tuag at gostau cyfreithiol Eos wedi ei wario ar 么l gwrandawiad dros dro'r tribiwnlys a ddigwyddodd ym mis Ebrill.

Penderfynodd cadeirydd y tribiwnlys i barhau gyda'r drefn o dalu 拢10,000 y mis i Eos gan y 91热爆 tan fod gwrandawiad llawn yn digwydd ym mis Medi.

Yn y gwrandawiad dros dro, daeth i'r amlwg fod yna wahaniaeth mawr rhwng yr hyn roedd Eos yn gobeithio derbyn, a'r hyn roedd y 91热爆 yn barod i dalu, am gerddoriaeth aelodau Eos.

Roedd y 91热爆 wedi dadlau mai 拢100,000 y flwyddyn oedd gwerth yr hawl i ddefnyddio'r gerddoriaeth, tra bod Eos am gynyddu'r gost i 拢1.5m y flwyddyn.

Bydd gwrandawiad llawn y tribiwnlys hawlfraint yn digwydd ar ddiwedd mis Medi.