Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynulleidfaoedd 91热爆 Cymru: darlun cymysg
Roedd yna gwymp yn y niferoedd sy'n gwylio allbwn teledu a radio Cymraeg 91热爆 Cymru Wales yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf tra bod cynulleidfaoedd y gwasanaethau Saesneg ar i fyny.
Mae'r ffigyrau'n cael eu trafod yn yr sy'n cael ei gyhoeddi fel rhan o adroddiad blynyddol y 91热爆.
Fel y nodwyd yn y ffigyrau RAJAR diwethaf, mae'r adolygiad yn cyfeirio at y cwymp yn y nifer sy'n gwrando ar 91热爆 Radio Cymru, a gyrhaeddodd ei lefel isaf erioed ddechrau'r flwyddyn.
Mae'r adolygiad hefyd yn nodi bod cynulleidfaoedd rhaglenni 91热爆 Cymru Wales ar S4C wedi syrthio, o'u cymharu 芒'r cynulleidfaoedd yn 2011/12 a 2010/11.
Gosod record
Ond gosododd rhaglenni Saesneg 91热爆 Cymru Wales record o safbwynt cynulleidfaoedd - dywedodd cyfarwyddwr 91热爆 Cymru Wales, Rhodri Talfan Davies, yn ei gyflwyniad i'r arolwg fod rhaglenni Saesneg ar 91热爆 One Wales a 91热爆 Two Wales wedi denu'r gynulleidfa fwyaf ers degawd.
Denodd y llwyfannau rhyngweithiol gynulleidfaoedd mwy hefyd, gyda 2.7 miliwn o ddefnyddwyr unigryw i wefannau 91热爆 Cymru Wales bob wythnos, cynnydd o 13% ar y flwyddyn flaenorol.
Rhybuddiodd Rhodri Talfan Davies fod y "tirlun darlledu yn newid yn gyflym ac mae'r sialensiau'n parhau i ddod o bob cyfeiriad".
Ychwanegodd: "Dangosodd canlyniadau diweddaraf y cyfrifiad y sialensiau wrth wasanaethu cynulleidfa Gymraeg sy'n newid yn gyflym; mae dosbarthiad cyfyngedig ein dwy orsaf genedlaethol yn parhau i wylltio gwrandawyr; mae angen datrys yr anghydfod cerddoriaeth a effeithiodd ar ein gwasanaethau ym mis Ionawr; ac ry'n ni'n awyddus i sicrhau bod y Gymru gyfoes yn cael ei hadlewyrchu'n well yn ein cyfraniad i raglenni rhwydwaith.
Ail-wampio'r gwasanaeth ar-lein Cymraeg
Ymysg y blaenoriaethau allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod, mae'r adolygiad yn nodi y bydd 91热爆 Cymru Wales "yn ail-wampio ein gwasanaeth ar-lein Cymraeg er mwyn cynnig gwasanaeth mwy cyfoes a gwahanol i ddefnyddwyr.
"Yn ogystal 芒 chryfhau'r gwasanaeth newyddion rhyngweithiol, bydd y gwasanaeth yn helpu defnyddwyr i wneud y gorau o gynnwys ac adnoddau Cymraeg sydd ar gael mewn llefydd eraill ar y rhyngrwyd."
Mae'r adolygiad hefyd yn cyfeirio at y bartneriaeth gydag S4C ac yn nodi bod y ddau ddarlledwr yn gweithio gyda'i gilydd ar hyn o bryd "i archwilio'r cyfleoedd o gyd-leoli'r ddau ddarlledwr ar un safle".
Y flwyddyn nesaf bydd 91热爆 Cymru Wales yn cynnig ystod o raglenni i nodi blwyddyn ers geni Dylan Thomas a dechrau'r Rhyfel Mawr, ac i roi sylw i Gemau'r Gymanwlad.