Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ymchwiliad nodiadau cleifion: Arestio ail nyrs
Mae nyrs arall wedi cael ei harestio gan yr heddlu wrth iddyn nhw ymchwilio i honiadau bod nodiadau cleifion wedi eu ffugio yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd y fenyw 31 oed ei gwahardd o'i gwaith yn syth pan ddaeth y mater i'r amlwg ac mae wedi ei rhyddhau ar fechn茂aeth.
Hi yw'r ail nyrs i gael ei harestio mewn cysylltiad 芒'r ymchwiliad.
Cafodd nyrs arall ei rhyddhau ar fechn茂aeth yn dilyn honiadau o esgeulustod yn yr ysbyty ym mis Mehefin.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg roddodd wybod i'r heddlu am yr honiadau.
Mae swyddogion yr heddlu yn cysylltu gyda chleifion neu deuluoedd cleifion.