Awstralia 16-41 Llewod

Ffynhonnell y llun, Arall

Disgrifiad o'r llun, Leigh Halfpenny: Pum cic gosb allan o bump yn yr hanner cynta'

Mae Llewod Prydain ac Iwerddon wedi ennill cyfres am y tro cynta' ers 16 blynedd.

Fore Sadwrn (ein hamser ni) daeth mwy na 83,000 i Stadiwm ANZ yn Sydney cyn y g锚m dyngedfennol.

Yn y funud gynta' wedi i Mike Phillips a Tommy Bowe gyfuno'n grefftus sgoriodd Alex Corbisiero gais i'r Llewod.

Trosodd Leigh Halfpenny cyn iddo gicio cic gosb. Ciciodd Lealiifano gic gosb i Awstralia. 3-10 i'r Llewod.

Roedd sgrym y Llewod yn rymus ac ildiodd Awstralia gic rydd. Ciciodd Halfpenny gic gosb.

Cafodd prop Awstralia garden felen. Ciciodd Halfpenny gic gosb, pump allan o bump yn yr hanner cynta'. 3-19 i'r Llewod.

Ddeng munud cyn yr egwyl methodd cic adlam Johnny Sexton.

Diffyg disgyblaeth

Ychydig cyn yr egwyl pwysodd Awstralia a sgoriodd eu maswr James O'Connor. Trosodd Lealiifano.

Ar ddechrau'r ail hanner cafodd Dan Lydiate ei gosbi a chiciodd Lealiifano. 13-19 i'r Llewod.

Arweiniodd diffyg disgyblaeth at gic gosb arall i Awstralia. 16-19 i'r Llewod.

Ffynhonnell y llun, Arall

Disgrifiad o'r llun, George North yn dathlu

Roedd y g锚m wedi troi ar ei phen ond ciciodd Halfpenny gic gosb, ei droed dde'n ddibynadwy fel arfer. 16-22 i'r Llewod.

Yna daeth fflach o ysbrydoliaeth, Jonathan Davies yn creu digon o le, Leigh Halfpenny'n rhedeg fel milgi cyn i Sexton sgorio cais. 16-29 i'r Llewod.

Chwaraeodd Halfpenny ran allweddol wrth wrthymosod cyn i George North sgorio cais. 16-34 i'r Llewod.

Wedyn sgoriodd Jamie Roberts, rhediad syth, pedwerydd cais y Llewod. Trosodd Halfpenny. 16-41 i'r Llewod.

Cyhoeddwyd yn y g锚m taw Leigh Halfpenny oedd chwaraewr y gyfres.

'Cyffro pur'

Cyn y g锚m brawf dywedodd Jamie Roberts: "Heblaw rownd derfynol Cwpan y Byd, does dim llwyfan rygbi mwy na'r g锚m i benderfynu cyfres y Llewod.

"Mae g锚m fel hon yn gyffro pur a rhaid i ni fynd allan a mynegi ein hunan ar y cae, canolbwyntio a chwarae i'r eithaf o dan bwysau.

"Mae gyda ni gyfle euraid nawr."

T脦M Y LLEWOD v AWSTRALIA: Y TRYDYDD PRAWF; SYDNEY; ddydd Sadwrn, Gorffennaf 6:-

15. Leigh Halfpenny (Cymru)

14. Tommy Bowe (Iwerddon)

13. Jonathan Davies (Cymru)

12. Jamie Roberts (Cymru)

11. George North (Cymru)

10. Jonathan Sexton (Iwerddon)

9. Mike Phillips (Cymru)

1. Alex Corbisiero (Lloegr)

2. Richard Hibbard (Cymru)

3. Adam Jones (Cymru)

4. Alun-Wyn Jones (Cymru, capten)

5. Geoff Parling (Lloegr)

6. Dan Lydiate (Cymru)

7. Sean O'Brien (Iwerddon)

8. Toby Faletau (Cymru)

Eilyddion: Tom Youngs (Lloegr), Mako Vunipola (Lloegr), Dan Cole (Lloegr), Richie Gray (Yr Alban), Justin Tipuric (Cymru), Conor Murray (Iwerddon), Owen Farrell (Lloegr), Manu Tuilagi (Lloegr).

Dyfarnwr: Romain Polite, Ffrainc

Y dorf: 83,702