Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Carchar anferth i ogledd Cymru
Mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys Danny Alexander wedi cyhoeddi y bydd llywodraeth y DU yn bwrw 'mlaen gyda chynllun i godi carchar enfawr yng ngogledd Cymru.
Bydd y carchar gwerth 拢100 miliwn yn cael ei godi ar un o ddau safle ar stad ddiwydiannol Wrecsam.
Fe fydd lle yn yr adeilad i 2,000 o garcharorion.
Lloegr
Roedd Cyngor Wrecsam wedi bod yn ymgyrchu i ddenu'r adeilad i'r fwrdeistref er mwyn creu cannoedd o swyddi ac fe gawson nhw gefnogaeth awdurdodau lleol cyfagos.
Ym mis Mai pleidleisiodd cynghorwyr Sir y Fflint o blaid ffafrio safle yn Wrecsam ac mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones hefyd wedi datgan ei gefnogaeth.
Ym mis Chwefror dywedodd Bwrdd Arweinyddiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru - sy'n cynnwys arweinwyr cynghorau'r gogledd a'r gwasanaethau brys - y byddai maint y carchar dan sylw yn golygu y byddai'n gorfod gwasanaethu gogledd Cymru a rhannau o ogledd-ddwyrain a chanolbarth Lloegr.
Eisoes mae'r cynghorau, ynghyd 芒'r gwasanaethau brys a swyddogion iechyd yn yr ardal, wedi croesawu'r cyhoeddiad.
Y ddau safle posib dan sylw yw Kingsmoor Park a safle hen ffatri deiars Firestone.
'Newyddion gwych'
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: "Rydw i wedi mynd ati'n gyson i wthio'r achos dros ystyried gogledd Cymru fel opsiwn ymarferol ar gyfer carchar newydd gyda'r Ysgrifennydd Cyfiawnder Chris Grayling.
"Mae cyhoeddiad heddiw'n newyddion gwych - bydd carchar yng ngogledd Cymru'n creu cyfleoedd economaidd ac yn creu swyddi newydd y mae eu gwir angen.
"Rydw i'n gwybod bod cael carchar yng ngogledd Cymru yn bwysig i deuluoedd, yn enwedig siaradwyr Cymraeg a chynghorwyr proffesiynol. Mae disgwyl i'r carchar newydd ddal llawer iawn o garcharorion - a fydd yn helpu gyda'r prinder lle presennol."
'Hwb sylweddol'
Dywedodd Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol dros Ogledd Cymru Aled Roberts: "Pan fues i'n cwrdd 芒 gweinidogion llywodraeth y DU rai wythnosau yn 么l, roedd yn amlwg eu bod yn ystyried eu rhaglen adeiladau carchardai fel rhan o'r adolygiad o wariant cyhoeddus.
"Ers pan oeddwn yn arweinydd Cyngor Wrecsam rwy' wedi dadlau bod achos cryf am gael carchar newydd yng ngogledd Cymru.
"Byddai adnodd o'r fath yn dod 芒 buddion economaidd sylweddol i'r rhanbarth ac fe allai arwain at greu dros 1,000 o swyddi. Bydd y buddsoddiad yma yn hwb sylweddol i ni.
"Wrth siarad gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Danny Alexander, mae'n amlwg eu bod wedi eu plesio gyda'r achos busnes a gyflwynwyd o blaid gogledd Cymru."
'Ddim yn gweithio'
Serch hynny, mae'r Howard League, elusen sy'n ymgyrchu dros ddiwygio'r system gyfiawnder, yn gwrthwynebu'r cynlluniau.
Dywedodd eu cyfarwyddwr ymgyrchoedd Andrew Neilson: "Dyw carchardai anferth ddim yn gweithio. Mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu bod carchardai mwy yn wynebu mwy o broblemau wrth reoli carcharorion.
"Mae'r carchardai yma hefyd yn wynebu problemau yn rheoli cyffuriau a thrais.
"Fe wnaeth y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol wrthwynebu cynlluniau tebyg pan roedden nhw'n wrthbleidiau ... ond maen nhw nawr i'w gweld yn mynd lawr yr un ffordd oherwydd mai dyma'r ffordd rataf o sicrhau capasiti.
Mae'r mudiad wedi dweud mai bach fydd y fantais i garcharorion o Gymru.
"Mae maint y carchar hwn, 2,000 o lefydd, yn golygu na fydd y mwyafrif o garcharorion yn dod o Gymru.
"Fe fydd carcharorion o Loegr yn dod i Gymru er mwyn cael eu cadw yma ac mae'n bosib y bydden nhw'n cael eu rhyddhau wedyn yng ngogledd Cymru."