Comisiwn Silk: Oedi cyn cyhoeddi adroddiad

Disgrifiad o'r llun, Mae Comisiwn Silk yn argymell y dylai llywodraeth Cymru gael pweru i godi trethi

Mae Llywodraeth y DU wedi cyfaddef y bydd yna oedi cyn y byddan nhw'n cyhoeddi eu hymateb i Adroddiad Silk sy'n argymell rhoi pwerau i Lywodraeth Cymru gael gosod trethi.

Mewn cyfweliad gyda 91热爆 Cymru fore Mercher dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David Jones, y byddai Llywodraeth y DU yn ymateb "yn y dyfodol agos iawn" ond nid cyn diwedd y gwanwyn fel yr oedd gweinidogion San Steffan wedi ei addo.

Y rheswm am yr oedi yw trafodaethau yn Whitehall yngl欧n ag argymhellion fyddai 芒 goblygiadau ehangach drwy'r DU.

Er mai'r Trysorlys sy'n arwain ar y mater ar ran Llywodraeth y DU, mae'r argymhellion yn anhebygol o gael eu crybwyll yn Adolygiad Gwariant y Canghellor ddiwedd yr wythnos nesaf.

Mi fydd yr adolygiad gwariant yn datgelu beth fydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn 2015-16 ac mae'n bosibl y bydd y Canghellor George Osborne yn rhoi manylion am sut y bydd gwelliannau i'r M4 yng Nghasnewydd yn cael eu hariannu.