Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ambiwlansys: Y camau nesaf
Mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi dweud y bydd yn ystyried sut i sicrhau safonau clinigol sy'n ymwneud 芒 gwaith dyddiol y gwasanaeth ambiwlans.
Wrth ymateb i Adolygiad McClelland, cyhoeddodd ei fod wedi gofyn i CDV Jones, cadeirydd arweiniol dros ofal heb ei drefnu, edrych ar ffyrdd posib o wneud hyn.
Dywedodd Mr Drakeford hefyd y byddai ystyriaeth i sut yr oedd ambiwlansys yn cael eu defnyddio yn dechrau'n fuan.
Ar hyn o bryd mae ambiwlansys yn ymateb i ddigwyddiadau brys ac yn cludo cleifion.
Bydd dyfodol Galw Iechyd Cymru hefyd yn cael ei ystyried, hynny yw y gwasanaeth lle mae pobl yn ffonio er mwyn cael cyngor am eu hiechyd.
Mae Galw Iechyd Cymru yn cyflogi dros 300 o staff.
Opsiynau
Y cyhoeddiad yw'r datblygiad diweddara' yn y broses o ddiwygio'r gwasanaeth.
Roedd yr adolygiad wedi dweud bod angen newid mawr i'r ffordd mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg.
Bydd y gweinidog yn ystyried dyfodol y gwasanaeth ambiwlans dros y misoedd nesaf.
Un o brif argymhellion yr adolygiad oedd y dylai'r llywodraeth benderfynu ar "weledigaeth glir" ar gyfer dyfodol y gwasanaeth.
Roedd tri opsiwn ar gyfer y dyfodol:
- Yn gynta', rhedeg y gwasanaeth ambiwlans fel bwrdd iechyd ar wah芒n o dan oruchwyliaeth y llywodraeth;
- Yr ail opsiwn fyddai comisiynu'r gwasanaeth drwy gyfrwng y byrddau iechyd;
- Yn drydydd, gallai byrddau iechyd unigol gymryd cyfrifoldeb am y gwasanaeth ambiwlans o fewn eu hardaloedd.
Awgrymodd Mr Drakeford y byddai'n gwneud penderfyniadau pendant ar hyn ym mis Gorffennaf.