Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Mesur priodas hoyw yn cael ei gymeradwyo
Mae T欧'r Cyffredin wedi pleidleisio o blaid cyfreithloni priodas hoyw yng Nghymru a Lloegr o 366 pleidlais i 161.
Siaradodd amryw o Aelodau Seneddol Ceidwadol yn erbyn mesur y llywodraeth, sydd wedi achosi tensiynau o fewn y blaid, ond fe wnaeth arweinwyr y gwrthbleidiau bleidleisio o'i blaid.
Bu cymeradwyaeth yn y siambr pan gyhoeddwyd canlyniad y bleidlais.
Bydd y mesur nawr yn mynd o flaen T欧'r Arglwyddi.
Nos Lun fe drechwyd gwelliant allai fod wedi rhoi y mesur yn y fantol.
Roedd rhai yn erbyn y mesur wedi cynnig gwelliant i ganiat谩u i gyplau heterorywiol gael partneriaethau sifil os caniateir i gyplau o'r un rhyw briodi.
Roedd gweinidogion wedi dweud y gallai hynny achosi oedi i'r mesur a chostio biliynau o bunnoedd.
Ond fe wnaeth gweinidogion gefnogi cynlluniau'r Blaid Lafur i gynnal ymgynghoriad ar bartneriaethau sifil er gwaethaf gwrthwynebiad rhai Aelodau Seneddol Ceidwadol.
Roedd mwyafrif o 225 o bleidleisiau dros y mesur pan gafodd ei drafod ym mis Chwefror a bron hanner yr Aelodau Seneddol Ceidwadol yn ei erbyn.
Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi dweud y byddai priodas gyfartal yn gymorth i adeiladu cymdeithas gryfach a thecach ac mae'r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg a'r arweinydd Llafur Ed Miliband yn ei gefnogi.
Mae ASau yn cael pleidlais rydd ar y mesur gan ei fod yn cael ei ystyried yn fater o gydwybod.
Eglwys yng Nghymru
O dan y ddeddfwriaeth gallai'r Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Loegr gael eu gwahardd rhag priodi cyplau o'r un rhyw oni bai fod cyfraith eglwysig yn cael ei newid.
Ond cyhoeddodd y Gweinidog Diwylliant Hugh Robertson bod y llywodraeth wedi penderfynu cyflwyno gwelliant er mwyn caniatau'r Eglwys yng Nghymru i gynnal priodasau hoyw os ydyn nhw'n penderfynu eu bod nhw eisiau gwneud hynny.
Roedd Archesgob Cymru Dr Barry Morgan wedi codi cwestiynau yngl欧n 芒'r gwaharddiad gwreiddiol.