Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Miloedd yn dathlu gyda Chaerdydd
Mae miloedd o gefnogwyr Clwb P锚l-droed Caerdydd ar strydoedd y brifddinas i weld y t卯m yn arddangos tlws y Bencampwriaeth.
Mae'r tywydd braf wedi dod 芒 theuluoedd o gefnogwyr hen ac ifanc allan i ddathlu gyda'u t卯m.
Arweiniodd y rheolwr Malky Mackay y t卯m allan o Gastell Caerdydd ac ar hyd y Stryd Fawr wrth iddyn nhw fynd ar fwrdd bws dec dwbwl agored.
Ar ddiwedd yr orymdaith, aeth y t卯m i dderbyniad arbennig yn y Senedd ym Mae Caerdydd, ac yna t芒n gwyllt i orffen y noson.
Roedd torf enfawr wedi ymgasglu yn gynnar yn y prynhawn i weld adloniant oedd wedi ei drefnu ar eu cyfer, ac roedd cannoedd yn fwy ar hyd yn Stryd Fawr lle bu chwaraewyr yn cerdded gyda'r tlws cyn mynd ar y bws.
Llwyddodd y t卯m i sicrhau dyrchafiad i'r Uwchgynghrair y tymor nesaf ar 么l bod ar frig y Bencampwriaeth ers mis Tachwedd y llynedd, ac yna ddwy g锚m yn ddiweddarach fe sicrhaoh nhw eu bod yn gorffen y tymor ar y brig.
Daeth y dyrchafiad union 53 mlynedd ers i Gaerdydd ennill dyrchafiad i'r brif adran y tro diwethaf.
Pan fydd yr orymdaith a'r bysys yn cyrraedd Bae Caerdydd, bydd aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig yn gorymdeithio gyda'r tlws cyn i Malky Mackay ymuno gydag arweinydd Cyngor Caerdydd, Heather Joyce, ar lwyfan arbennig.
Mae nifer o ffyrdd yng nghanol y ddinas wedi eu cau er mwyn i'r bws deithio o'r canol i'r Bae.
Ar ddiwedd yr orymdaith, cafodd y chwaraewyr eu cludo i dderbyniad arbennig gan y Gweinidog Addysg Leighton Andrews, sydd hefyd yn gefnogwr yr Adar Gleision, ynghyd 芒 nifer o gynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru.
Diweddglo'r dathliadau oedd arddangosfa t芒n gwyllt dros yr harbwr.