Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Allen yng ngharfan b锚l-droed Cymru
Mae chwaraewr canol cae Lerpwl, Joe Allen, wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Yr Alban a Croatia.
Mae'r chwaraewr 22 oed wedi bod yn diodde' gydag anaf i'w ysgwydd ond does dim penderfyniad yngl欧n 芒 phryd fydd yn cael llawdriniaeth eto.
Bydd Cymru'n gobeithio adeiladu ar eu buddugoliaeth yn y g锚m gyfeillgar yn erbyn Awstria fis diwetha'.
Mae asgellwr Tottenham, Gareth Bale, hefyd wedi'i gynnwys.
Mae Bale wedi sgorio 10 o goliau yn ystod ei 11 g锚m ddiwetha'.
Does dim lle i Adam Matthews yn y garfan, wedi iddo gael anaf i linyn y gar wrth iddo chwarae dros Celtic yn erbyn Juventus yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Mae James Collins yn ei 么l ar 么l iddo fethu 芒 chwarae yn y fuddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Awstria.
Mae ymosodwr Leeds United, Steve Morison, hefyd yn dychwelyd ar 么l anaf.
Ond oherwydd nad ydy Darcy Blake wedi chwarae rhyw lawer yn ddiweddar, dydy o ddim wedi'i gynnwys.
Mae chwaraewr Crystal Palace, Jonathan Williams, sydd eto i ennill cap, wedi'i ddyrchafu o'r garfan dan-21 ar 么l sgorio yn y fuddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Gwlad yr I芒.
Mae Craig Bellamy ac Aaron Ramsey hefyd wedi'u cynnwys yn y garfan.
Bydd Cymru'n wynebu'r Alban ym Mharc Hampden ar nos Wener, Mawrth 22, yng ng锚m gystadleuol gynta' Gordon Strachan fel rheolwr.
Byddan nhw wedyn yn herio Croatia yn Abertawe ar nos Fawrth, Mawrth 26.
Carfan Cymru:
Boaz Myhill (West Bromwich Albion), Lewis Price (Crystal Palace), Owain F么n Williams (Tranmere Rovers), Ben Davies (Abertawe), James Collins (West Ham United), Chris Gunter (Reading), Joel Lynch (Huddersfield Town), Ashley Richards (Abertawe - ar fenthyg o Crystal Palace), Sam Ricketts (Bolton Wanderers), Ashley Williams (Abertawe), Joe Allen (Lerpwl), Jack Collison (West Ham United), Andy King (Leicester City), Joe Ledley (Celtic), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Sunderland), Jonathan Williams (Crystal Palace), Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Craig Bellamy (Caerdydd), Simon Church (Reading), Steve Morison (Leeds United), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley).