Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ffermwr pysgod yn erlyn Asiantaeth yr Amgylchedd
Mae perchennog fferm bysgod, sy'n honni bod ei fusnes wedi mynd i'r gwellt ar 么l i ddyfrgwn fwyta ei holl stoc o 22,000 pysgod carp, yn ceisio hawlio 拢2 miliwn o iawndal gan Asiantaeth Amgylchedd Cymru.
Mae Brian Dodson, 60, wedi dwyn achos yn erbyn yr asiantaeth yn Yr Uchel Lys yng Nghaerdydd wedi i'w stoc gwerth 拢250,000 gael ei bwyta.
Mae Mr Dodson yn honni fod yr asiantaeth yn euog o beidio cyflawni eu dyletswydd ar 么l iddynt sefydlu cynefin i ddyfrgwn ar afon gerllaw ei lynoedd yn Waen Wen ym mhentref Tregarth, ger Bangor.
Mae'r asiantaeth yn gwadu'r honiadau.
'Anghyfreithlon'
Mae Mr Dodson yn honni bod yr asiantaeth wedi gweithredu'n anghyfreithlon gan adeiladu gwalau i'r dyfrgwn gan obeithio y bydden nhw'n bridio ar afon Cegin, llai na dwy filltir o'r fferm bysgod.
Clywodd y llys mai dim ond esgyrn y pysgod oedd yn weddill pan aeth Mr Dodson i archwilio ei stoc yn 2009.
Mae'n hawlio iawndal o 拢2 miliwn gan yr asiantaeth - swm fyddai, yn ei dyb ef, yn ei ddigolledi am yr incwm y byddai wedi cael gan bysgotwyr oedd yn defnyddio ei bysgodfa.
Clywodd y llys fod y busnes wedi mynd i'r wal a bod Mr Dodson nawr yn dibynnu ar fudd-daliadau salwch
Dywedodd Mr Dodson wrth y gwrandawiad: "Does gan yr asiantaeth ddim hawl i ehangu cynefinoedd dyfrgwn gan adeiladu gwalau iddynt.
"Yn fy marn i mae hyn yn anghyfreithlon - mae'r asiantaeth wedi gosod gwalau ar draws y wlad heb yr awdurdod i wneud hynny. "
Ffensys amddiffynnol
Ychwanegodd y byddai wedi gallu gosod ffensys amddiffynnol petai'r asiantaeth wedi ei hysbysu bod dyfrgwn yn ymgartrefu ar yr afon.
Mae Mr Dodson hefyd yn cyhuddo'r asiantaeth o beidio cynnal astudiaeth effaith amgylcheddol cyn iddynt ddechrau'r gwaith o sefydlu cynefin i'r dyfrgwn ar afon Cegin.
Dywedodd cyfreithiwr yr asiantaeth, Louis Brown, wrth y gwrandawiad mai prif nod yr asiantaeth oedd "gwarchod a gwella amgylchedd" y dyfrffyrdd mewndirol.
"Adeiladodd yr asiantaeth yr un w芒l ar y safle hwn nac ychwaith unrhyw safle arall ac ni wnaeth yr asiantaeth gynyddu cyfanswm y bwyd ar gyfer dyfrgwn," meddai.
"Roedd gwaith yr asiantaeth ar afon Cegin yn ymwneud 芒 chael gwared 芒 sbwriel o ran o'r afon."
Ychwanegodd Mr Brown nad oedd Mr Dodson wedi cysylltu 芒'r asiantaeth i dderbyn cyngor ynghylch sut i ddelio 芒 dyfrgwn er bod y wybodaeth ar gael.
Mae'r achos yn parhau.