Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyhoeddi cystadleuwyr Canwr y Byd 2013
Mae'r 91热爆 wedi cyhoeddi'r rhestr o 20 o gantorion fydd yn cystadlu am wobr Canwr y Byd Caerdydd yn 2013.
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal rhwng Mehefin 16-23 yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd.
Mae'r gystadleuaeth yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 eleni.
Bu'r beirniaid yn teithio i naw lleoliad ar draws y byd i gynnal clyweliadau gyda'r ymgeiswyr - Berlin, Buenos Aires, Dresden, Llundain, Milan, Moscow, Efrog Newydd, Paris a Vilnius.
Roedd dros 400 wedi ymgeisio drwy anfon perfformiad ar fideo i'r beirniaid, ac fe luniwyd rhestr fer o 52 ar sail hynny cyn y clyweliadau personol.
Fe ddaw'r 20 cystadleuydd terfynol o 17 o wledydd gan fod rheolau'r gystadleuaeth yn caniat谩u dau ymgeisydd o Loegr, Yr Eidal a De Korea.
Fel ymhob blwyddyn ers i'r gystadleuaeth gael ei chreu yn 1983, fe fydd dwy gerddorfa yn cyfeilio i'r cantorion - Cerddorfa Genedlaethol Cymru y 91热爆 dan arweiniad Jun Markl a Cherddorfa Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru o dan arweiniad Graeme Jenkins.
Yn ogystal, fe fydd dau gyfeilydd swyddogol i'r gystadleuaeth - Simon Lepper, sy'n Athro Cyfeilio Piano yn y Coleg Cerdd Brenhinol a hyfforddwr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a Ll欧r Williams, perfformiwr enwog sydd wedi perfformio gyda Cherddorfa Symffoni'r 91热爆, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y 91热爆, Cerddorfa Ffilharmonig Llundain, Cerddorfa Halle, Sinffonia Cymru a Cherddorfa Minnesota.
Fe fydd enillydd y brif wobr yn derbyn 拢15,000 a Thlws Caerdydd, ac fe fydd enillydd y wobr Lieder yn derbyn tlws a 拢5,000.
Y beirniaid ar gyfer y brif wobr fydd Y Fonesig Kiri Te Kanawa, Elena Obraztsova, Neil Shicoff, Bernd Weikl, Maren Hofmeister, Per Boye Hansen a'r cadeirydd Nicholas Payne.