Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Pantycelyn' newydd gam yn nes
Bydd myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn gadael Neuadd Pantycelyn am y tro olaf yr haf nesaf.
Mae'r brifysgol wedi datgan mai'r cynigiwr sy'n cael ei ffafrio ar gyfer adeiladu'r datblygiad newydd fydd cwmni Balfour Beatty.
Bydd y datblygiad gwerth 拢45 miliwn yn cael ei godi ar Fferm Penglais a bydd y myfyrwyr yn cael eu lletya ar safle newydd o Hydref 2014 ymlaen.
Ond yn 么l Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), Carys Ann Thomas, fe fydd 'na flociau penodol ar gyfer myfyrwyr Cymraeg.
Fflatiau stiwdio
Ychwanegodd y byddai'r enw Pantycelyn yn parhau i ddynodi'r blociau ar gyfer y myfyrwyr hynny.
"Mae 200 o fyfyrwyr Cymraeg ym Mhantycelyn ar hyn o bryd ac fe fydd 'na ddigon o le i fwy o fyfyrwyr Cymraeg fynychu'r neuadd breswyl newydd os bydd y galw'n cynyddu," meddai.
Wedi'i leoli yn union y tu 么l i bentref myfyrwyr Jane Morgan, bydd y preswylfeydd newydd yn darparu llety ar gyfer 1000 o fyfyrwyr ac yn cynnwys 100 o fflatiau stiwdio.
Adeiladwyd Neuadd Pantycelyn yn wreiddiol ym 1951, ac fe'i hagorwyd hi fel neuadd ar gyfer myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg yn 1973.
Mae hi wedi denu cenedlaethau o bobl ifanc sy'n dymuno astudio a byw trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r datblygiad newydd yn cynnwys cyfres o adeiladau tri llawr gyda fflatiau i chwech neu wyth o fyfyrwyr mewn llety hunanarlwyo.
Bydd ystafelloedd gwely sylweddol, en-suite yn cynnig digon o le i fyfyrwyr fyw ac astudio gyda mynediad gwifrau caled a diwifr i'r rhyngrwyd.
'Gwella profiad'
Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau'r haf a gobeithir y bydd y myfyrwyr cyntaf yn gallu symud i mewn erbyn dechrau'r flwyddyn academaidd 2014.
Yn 么l y brifysgol mae'r myfyrwyr wedi bod yn rhan o'r broses o helpu'r Brifysgol i sicrhau bod y preswylfeydd newydd yn adlewyrchu dyheadau a blaenoriaethau UMCA ac Undeb y Myfyrwyr fel bod y datblygiad cyfan yn gweithio i wella profiad y myfyrwyr.
Bydd lle canolog hefyd yn darparu ystod o swyddogaethau cymdeithasol, dysgu a byw gan gynnwys golchdai, storfa beiciau, gofod cymunedol ar gyfer clybiau a chymdeithasau, a chyfleusterau cyfrifiadurol. Bydd hefyd cae chwaraeon glaswellt newydd.
Mae t卯m prosiect y Brifysgol yn cael ei arwain gan James Wallace, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Campws.
Dywedodd: "Rydym yn falch o'r cynnydd a wnaed gyda'r broses ddeialog gystadleuol. Rydym yn disgwyl i'r preswylfeydd gael eu trosglwyddo i ni yn 2014 a gweld myfyrwyr yn byw yn yr adeilad newydd pwrpasol, gwych, a fydd yn gam pwysig tuag at gyflawni nodau strategol y Brifysgol ".
Unwaith y bydd yn weithredol, bydd y Brifysgol yn darparu gwasanaethau myfyrwyr yn y preswylfeydd newydd, tra bydd Balfour Beatty yn gyfrifol am gynnal a chadw'r adeiladau.