Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Symud llong o'r tywod
Mae'r awdurdodau wedi llwyddo i symud llong sydd wedi bod yn sownd ar y tywod ger porthladd Mostyn ers dros wythnos.
Mae'r Ciudad de Cadiz yn cael ei defnyddio i gludo adenydd o ffatri cwmni Airbus ym Mrychdyn i bencadlys y cwmni yn Toulouse, Ffrainc.
Ar ei ffordd i godi llwyth ar Ionawr 30, daeth y llong yn rhydd o'i hangor mewn gwyntoedd cryfion cyn mynd yn sownd ger y fynedfa i'r porthladd.
Mae sawl ymgais i'w symud ers hynny wedi bod yn aflwyddiannus.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Airbus:
"Mae'r llanw uchel yn ddiweddar wedi bod yn is na'r disgwyl, felly fe wnaed y penderfyniad i ohirio'r ymgais nesaf tan ddydd Sadwrn, Chwefror 9.
"Mae'r llong mewn safle cadarn a diogel ar dwyn tywod. Does dim llygredd morol, nid yw'r llong wedi ei difrodi o gwbl dim ond ei bod yn sownd ar y tywod.
"Rydym yn cadw golwg barhaus ar y sefyllfa, ond mae gwarchod yr amgylchedd yn flaenoriaeth uchel i Airbus ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'r holl awdurdodau perthnasol i sicrhau bod y mater yma'n cael ei ddatrys cyn gynted 芒 phosib."