Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cymru 2-1 Awstria
Cafwyd buddugoliaeth haeddiannol i Gymru dros Awstria yn y g锚m gyfeillgar yn Stadiwm Liberty nos Fercher, a hynny wedi perfformiad calonogol.
Gareth Bale sgoriodd holl goliau Cymru yn 2012 a dechreuodd 2013 yn yr un modd ar 么l 20 munud wedi cyffyrddiad cyntaf hyfryd i reoli'r b锚l o bas hir a chelfydd Joe Allen, ac yna ergyd nerthol i waelod chwith y rhwyd.
Mae e nawr wedi sgorio 7 g么l yn ei 9 g锚m ddiwethaf dros Gymru, sydd mor ddibynnol arno.
Fe wnaeth y rheolwr Chris Coleman ddechrau'r g锚m gyda Craig Bellamy a Bale fel partneriaeth ymosodol, a thro ar 么l tro roedd y ddau yn peri trafferthion i amddiffyn Awstria.
Croesiad Bale
Ond yr eilydd ddaeth ymlaen yn lle Bellamy, Sam Vokes, roddodd Cymru ymhellach ar y blaen wedi 51 munud gyda pheniad o'r radd flaenaf ychydig y tu mewn i'r cwrt cosbi wedi croesiad da gan, wrth gwrs, Bale.
Roedd amddiffyn Cymru yn fregus y llynedd a phan oedd hyder cefnogwyr Cymru yn cynyddu y bydden nhw ddim yn ildio heno, fe adawyd Marc Janko heb ei farcio'n ddigonol a pheniodd i'r rhwyd o ychydig lathenni wedi 74 munud.
Am weddill y g锚m Awstria oedd yn rheoli, gyda Chymru yn amddiffyn yn daer. Fe fyddai wedi bod yn destun digalondid mawr i'r garfan pe bydden nhw wedi ildio'n hwyr.
Roedd angen y fuddugoliaeth i godi hyder. Ymlaen nawr at weddill ymgyrch Cwpan y Byd.
Bydd gemau nesaf Cymru yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd oddi cartref yn erbyn Yr Alban ar Fawrth 22 ac yn erbyn Croatia yn Stadiwm Liberty ar Fawrth 26.
Doedd yr ymosodwr Steve Morrison, yr amddiffynnwr James Collins, y golwr Wayne Hennessey a'r amddiffynnwr Neil Taylor ddim ar gael i Gymru nos Fercher oherwydd anafiadau.
Hon hefyd oedd y g锚m gyntaf i chwaraewr canol cae West Ham Jack Collinson chwarae dros Gymru ers g锚m goffa Gary Speed yn erbyn Costa Rica ym mis Chwefror y llynedd.
Mae Cymru wedi colli tair o'u pedair g锚m gyntaf wrth geisio cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd ym Mrasil yn 2014.
Fe ddaeth yr unig fuddugoliaeth yn erbyn Yr Alban yng Nghaerdydd pan rwydodd Gareth Bale ddwywaith wrth i Gymru ennill o ddwy g么l i un.
Carfan
Cymru (v Awstria): Jason Brown (Dim clwb), Boaz Myhill (West Brom), Owain F么n Williams (Tranmere), Ashley Williams (Abertawe, capten), Jazz Richards (Abertawe), James Wilson (Bristol City), Sam Ricketts (Bolton), Chris Gunter (Reading), Adam Matthews (Celtic), Ben Davies (Abertawe), Jack Collison (West Ham), Andy King (Caerl欧r), Joe Allen (Lerpwl), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Sunderland), Joe Ledley (Celtic), Gareth Bale (Tottenham), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley), Simon Church (Reading), Craig Bellamy (Caerdydd) Craig Davies (Bolton).