Bellamy yn y garfan

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Roedd rhai wedi darogan y byddai Craig Bellamy yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman, wedi cyhoeddi ei garfan ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Awstria yn Stadiwm Liberty nos Fercher, Chwefror 6.

Er mai gêm gyfeillgar yw hon, mae'r garfan yn ymddangos ar ei chryfaf mewn gêm sy'n cael ei gweld fel paratoad ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 a ddaw yn ddiweddarach eleni.

Mae'r sêr amlwg - Gareth Bale, Aaron Ramsey a Joe Ledley yn eu plith - yn y garfan, ond roedd hi'n syndod i rai weld enw Craig Bellamy ar y rhestr.

Roedd sawl un wedi darogan y byddai Bellamy yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.

Er bod gan Abertawe daith i Wembley i ddod ar ddiwedd y mis ar gyfer rownd derfynol Cwpan Capital One, mae tri aelod o'r tîm - Ashley Williams, Ashley Richards a Ben Davies - yn y garfan, ynghyd â'u cyn chwaraewr Joe Allen o Lerpwl.

Cymru v.Awstria: Stadiwm Liberty, Abertawe; Nos Fercher, Chwefror 6 :-

Lewis PRICE (Crystal Palace); Boaz MYHILL (West Bromwich Albion); Owain Fon WILLIAMS (Tranmere Rovers);

Ashley WILLIAMS (Abertawe); Ashley RICHARDS (Abertawe); Sam RICKETTS (Bolton Wanderers); Chris GUNTER (Reading); Adam MATTHEWS (Celtic); Ben DAVIES (Abertawe);

Jack COLLISON (West Ham United); Andy KING (CaerlÅ·r); Joe ALLEN (Lerpwl); Aaron RAMSEY (Arsenal); David VAUGHAN (Sunderland); Joe LEDLEY (Celtic); Gareth BALE (Tottenham Hotspur); Hal ROBSON-KANU (Reading);

Sam VOKES (Burnley); Simon CHURCH (Reading); Craig BELLAMY (Caerdydd); Joel LYNCH (Huddersfield Town); Craig DAVIES (Bolton Wanderers).