Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Bellamy i chwarae i Gymru?
Mae rheolwr Clwb P锚l-droed Caerdydd, Malky Mackay, wedi awgrymu bod Craig Bellamy'n barod i chwarae i Gymru.
Bydd Cymru yn herio Awstria mewn g锚m gyfeillgar yn Stadiwm Liberty ar Chwefror 6.
Mae'n debyg y bydd yr ymosodwr 33 oed yn rhan o'r garfan fydd yn cael ei henwi gan reolwr y t卯m cenedlaethol Chris Coleman ddydd Mercher.
Oherwydd anafiadau nid oedd Bellamy yn chwarae ym mhedair g锚m gystadleuol ddiwethaf Cymru wrth iddyn nhw geisio cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd ym Mrasil yn 2014.
'Chwaraewr gwych'
Mae Coleman wedi annog Bellamy i ddweud os yw am barhau i chwarae i'w wlad ond nid yw Bellamy wedi datgan unrhyw benderfyniad hyd yn hyn.
"Byddai'n wych i Chris pe bai Craig yn gallu chwarae oherwydd mae'n chwaraewr gwych ac yn chwarae'n dda ar hyn o bryd," meddai Mackay.
""Fy marn i yw y dylai'r rhai sy'n cael eu dewis i chwarae i'w gwlad fod yn falch o wneud hynny."
Dim ond Ian Rush (28), Trevor Ford (23), Ivor Allchurch (23) a Dean Saunders (22) sydd wedi sgorio mwy o goliau na Bellamy (19) dros Gymru.