Euro 2020: Cefnogaeth gan Faes Awyr Bryste i gais Caerdydd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Chwaraewyr Sbaen yn dathlu ennill Euro 2012

Mae Maes Awyr Bryste wedi dweud eu bod yn gefnogol i ymgais Cymru i gynnal gemau ym Mhencampwriaeth Euro 2020 yn Stadiwm y Mileniwm.

Mae'r corff sy'n llywodraethu p锚l-droed, UEFA, yn dweud bod rhaid i ddinasoedd sy'n dymuno cynnal gemau gael dau faes awyr gerllaw i sicrhau bod cefnogwyr gwahanol wledydd yn cael eu cadw ar wah芒n.

Dim ond un maes awyr sydd gan Gymru.

Ond mae 'na faes awyr ym Mryste sydd tua 50 milltir o Gaerdydd ac maen nhw'n dweud eu bod eisoes yn gwasanaethu Cymru.

Mae disgwyl i Gymdeithas B锚l-Droed Cymru wneud cais i gynnal g锚m yn erbyn dinasoedd Rhufain, Berlin, Istanbul a Madrid.

Cefnogaeth

Dywedodd llefarydd ar ran Maes Awyr Bryste y byddan nhw'n croesawu'r cyfle i weithio gyda'r Gymdeithas a chyrff eraill sy'n rhan o'r cais.

Er gwaetha rheol UEFA mae swyddogion wedi dangos cefnogaeth i gais Caerdydd.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau i brynu'r maes awyr.

Mae'r cam yna wedi ei feirniadu gan un o Aelodau Seneddol Ewrop De Orllewin Lloegr sy'n dweud y gall fygwth Maes Awyr Bryste.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Maes Awyr Bryste y dylai gael ei weld eisoes fel ail faes awyr i bobl sy'n mynd a dod o Gymru.

"Mae'r maes awyr ym Mryste eisoes yn gwasanaethu miloedd o ymwelwyr i Gymru, gan gynnwys gemau rygbi bob blwyddyn," meddai.

"Fe fyddwn ni'n barod i ddarparu gwybodaeth ychwanegol sydd ei angen er mwyn i Gaerdydd gyrraedd meini prawf UEFA."

Ychwanegodd Huw Thomas, aelod o gabinet Cyngor Sir Caerdydd sydd 芒 chyfrifoldeb am chwaraeon, hamdden a diwylliant, mai dwy awr yn unig yw Caerdydd o Lundain ar y tr锚n.

"Dros y 10 mlynedd diwethaf mae Caerdydd wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau chwaraeon mawr sydd wedi cael eu gwylio gan filynnau o bobl ar draws y byd.

"Mae llwyddiant o gemau terfynol Cwpan yr FA, Gemau P锚l-Droed Gemau Olympaidd 2012, Cwpan Rygbi'r Byd a Gemau Lludw yn rhoi enw da i'r ddinas.

"Gyda'r gallu i gau to Stadiwm y Mileniwm caiff ei weld fel lleoliad arbennig nid yn unig yn Ewrop ond drwy'r byd ar gyfer digwyddiadau chwaraeon.

Dywedodd llefarydd ar ran Maes Awyr Caerdydd bod manylion sut y bydden nhw'n ymdopi wedi eu cyflwyno ar sail profiad blaenorol, gallu a maint y maes awyr.

"Mae gan y maes awyr brofiad sylweddol wrth groesawu miloedd o gefnogwyr ar gyfer digwyddiadau mawr dros y blynyddoedd, o'r Cwpan Ryder yn 2011 i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad bob blwyddyn, Cwpan Heineken a Chwpan Rygbi'r Byd.

"Gall y maes awyr gynnig gwasanaeth unigryw i dimau, drefnwyr a chefnogwyr."

Fe fydd y bencampwriaeth yn Ffrainc yn 2016.