Euro 2020: Clec i obeithion Caerdydd i gynnal gemau?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Chwaraewyr Sbaen yn dathlu ennill Euro 2012

Gallai gobeithion Cymru o fod yn un o'r gwledydd sy'n cynnal pencampwriaeth Euro 2020 gael eu difetha oherwydd dim ond un maes awyr sydd yn y wlad.

Mae Llywydd UEFA, Michel Platini, wedi awgrymu y gallai'r bencampwriaeth gael ei chynnal mewn "12 neu 13 o wledydd".

Mae Cymru eisoes wedi datgan yn gyhoeddus eu dymuniad i gynnal y bencampwriaeth ar y cyd ag Iwerddon a'r Alban ac mae disgwyl i Bwyllgor Gweithredol Cymdeithas B锚l-droed Cymru benderfynu ynghylch y mater ar Fawrth 28.

Ond mae UEFA yn cynnig y dylai pob un o'r dinasoedd sy'n cynnal Euro 2020 gael eu gwasanaethu gan ddau faes awyr neu un 芒 dwy derfynell.

Mae gan Faes Awyr Caerdydd un derfynell ac mae'r maes awyr mawr agosaf ym Mryste.

Nod y gofynion yw cadw dilynwyr gwledydd ar wah芒n wrth iddynt deithio i wylio gemau.

Mae Prif Weithredwr Cymdeithas B锚l-Droed Cymru, Jonathan Ford, wedi dweud ei fod am weld Caerdydd "yn un o'r dinasoedd sy'n cynnal y bencampwriaeth" o dan gynlluniau Platini.

"Dwi'n credu bod 2020 yn gyfle gwirioneddol gwych i ni," meddai.

Dyw Cymdeithas B锚l Droed Cymru ddim wedi gwneud sylw am y meysydd awyr.

Mae disgwyl i Ddulyn a Glasgow gynnig am y bencampwriaeth ac mae'n debyg y bydd Cymdeithas B锚l-droed Lloegr yn cynnig cynnal gemau'r rownd gynderfynol a therfynol yn Wembley.

Hefyd mae'n debyg y bydd Madrid, Rhufain, Berlin ac Istanbul yn gwneud ceisiadau ar gyfer cynnal y rownd derfynol.

Fe fydd y bencampwriaeth yn Ffrainc yn 2016.