Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Toriadau'n 'bygwth diwylliant cerddorol' Cymru
Mae un o gyfansoddwyr amlycaf Cymru wedi dweud y bydd rhagor o doriadau i wasanaethau cerddoriaeth i'r ifanc yn cael effaith niweidiol ar ddiwylliant y wlad.
Dywedodd Karl Jenkins ei fod yn pryderu mai braint i deuluoedd ariannog fydd gwersi offerynnol, wrth i ragor o gynghorau ystyried torri ar y ddarpariaeth wrth geisio arbed arian.
Does dim rheidrwydd ar gynghorau i ddarparu gwasanaethau cerdd.
Mae Cyngor Sir Casnewydd wedi cynnig torri'r 拢290,000 maent yn ei roi tuag at Wasanaeth Cymorth Cerddorol Gwent, sef 40% o'r cyllid.
"Dwi'n meddwl ei fod yn druenus," meddai'r cyfansoddwr.
"Pan drafodwyd y pwnc yma yn yr Almaen yn ddiweddar wrth i'r llywodraeth gynyddu'r gwariant ar y celfyddydau, dywedwyd eu bod yn diogelu dyfodol diwylliannol y genedl.
"Cerddorfa Ieuenctid Cymru oedd yr un gyntaf o'i math yn y byd. Ond bydd yn diflannu ym mhen hir a hwyr os na fydd pobl ifanc yn cael y cyfle a'r cyfleusterau i ddysgu offerynnau. Ac unwaith rydym wedi colli rhywbeth o'r fath, mae'n anodd iawn ei ailgreu."
Rhan bwysig
Ganed Karl Jenkins ym Mhenclawdd ger Abertawe, a dywedodd bod y gwersi cerdd yn yr ysgol ramadeg wedi bod yn rhan bwysig o'i yrfa gerddorol. Ond mae'n poeni na fydd plant heddiw yn mwynhau'r un profiad.
"Bydd y rhieni sy'n gallu fforddio dwi'n si诺r yn talu am wersi i'w plant. Ond beth am y plant na all fforddio gwersi? Mae talent gerddorol yn bodoli ym mhob lefel o gymdeithas ac yn gallu cyfoethogi bywydau plant o unrhyw gefndir."
Cynhaliodd cerddorion ifanc gyngerdd annisgwyl y tu allan is swyddfeydd cyngor Casnewydd fis yma mewn gwrthwynebiad i'r toriadau.
Mae Gwasanaeth Cymorth Cerddorol Gwent yn dysgu plant i chwarae offerynnau ac yn trefnu cerddorfeydd a bandiau. Caiff ei ariannu ar hyn o bryd gan gynghorau Casnewydd (拢290,000), Torfaen (拢220,000) a Sir Fynwy (拢260,000).
Diffyg ariannol
Dywedodd cyngor Casnewydd eu bod yn wynebu cynnydd o 300 yn niferoedd disgyblion ysgol gynradd y sir, gyda chost ychwanegol o 拢500,000.
"Mae Cyngor Dinas Casnewydd ar hyn o bryd yn ymgynghori'n fanwl ar nifer o gynigion i arbed arian wrth wynebu diffyg ariannol o dros 拢8 miliwn yng nghyllideb blwyddyn nesaf," meddai llefarydd.
"Mae'r cynnig yngl欧n 芒 Gwasanaeth Cefnogaeth Cerddorol Gwent yn ymwneud 芒 pheidio ei ariannu, ond nid i ddod 芒'r gwasanaeth i ben. Y nod yw helpu i'w wneud yn hunangynhaliol, gan hefyd ddarganfod ffyrdd o gynnig cefnogaeth ariannol i blant llai cefnog."
Ac mae gweddill plant Cymru hefyd yn wynebu colli eu gwersi cerddorol.
Nid oes yna unrhyw gyllid ar gyfer gwersi cerddorol ym Mhowys ar hyn o bryd.
Nid oes yna chwaith unrhyw wersi cerddorol wedi eu hariannu yn uniongyrchol gan gyngor Sir Gaerfyrddin wedi iddynt dorri 拢120,000 tuag at y gwasanaeth yma yn eu cyllideb ddiweddaraf. Yno, mae'r ysgolion eu hunain yn talu am wersi o'u cyllideb flynyddol.
Torrodd cyngor Sir Fflint 30% (拢177,000) o'i gwariant yn y rownd ddiweddaraf o arbedion ariannol.
Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Mae'r cyngor sir yn rhoi arian i grwpiau cerddorol a thiwtoriaid, gyda chyfraniad heb fod mwy na 拢120 yn flynyddol gan rieni."
Mae nifer o gynghorau eraill yn ystyried toriadau yn y flwyddyn i ddod.