Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Alfreton 1-2 Wrecsam
Alfreton 1-2 Wrecsam
Mae Wrecsam wedi esgyn i frig y gynghrair yn dilyn buddugoliaeth galed yn Alfreton nos Fawrth.
Does dim dwywaith mai Alfreton gafodd y gorau o'r chwarae gydol y g锚m, ond er hynny Wrecsam aeth ar y blaen wedi 17 munud diolch i gynnig Neil Ashton ar 么l gwaith da Danny Wright.
Doedd dim amheuaeth chwaith bod y t卯m cartref yn haeddu bod yn gyfartal, a dyna ddigwyddodd wedi 33 munud pan sgoriodd Ben Tomlinson i unioni'r sg么r.
Cyfartal ar yr egwyl felly, ond roedd hi'n ymddangos bod gobeithion Wrecsam o godi i'r brig wedi diflannu wedi 52 o funudau pan welodd Danny Wright ei ail gerdyn melyn - ac felly un coch.
Ond brwydrodd y deg dyn yn ddewr i aros yn y g锚m, a hynny er i Alfreton gael llawer mwy o ergydion at y g么l, a mwyafrif y meddiant.
Roedd rhaid aros tan 75 munud cyn i Wrecsam gael eu hail ergyd at y g么l, ond yn wyrthiol fe aeth y ddwy i gefn y rhwyd - Joe Clarke yn rhoi'r ymwelwyr ar y blaen.
Fe ddaliodd y deg dyn yn gadarn tan y chwib olaf i roi hwb go iawn i obeithion Wrecsam o esgyn i'r gynghrair b锚l-droed y tymor nesaf.