Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi 拢500m ar gyfer cynlluniau cyfalaf

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n benthyg 拢500m ar gyfer cynlluniau cyfalaf.

Bydd 拢300m ar gyfer troi Heol Blaenau'r Cymoedd, yr A465, yn gwbl ddeuol erbyn 2020.

Y rhannau rhwng Hirwaun a'r gyffordd 芒'r A470 ac o'r A470 i Ddowlais Top fydd y rhai ola'.

Dywedodd gweinidogion y byddai hyn hefyd yn golygu swyddi yn y diwydiant adeiladu.

Bydd 拢200m ychwanegol ar gyfer gwella adeiladau ysgolion a chynghorau'n derbyn hyd at 拢12m y flwyddyn am 30 mlynedd.

Byddan nhw'n gallu benthyg 拢200m fel y bydd rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain yn dod i ben yn 2018-19.

30 mlynedd

Dywedodd y llywodraeth y bydden nhw'n ad-dalu'r 拢500m dros gyfnod o 30 mlynedd.

Brynhawn Mawrth cymeradwyodd Aelodau Cynulliad gyllideb 拢15.1 biliwn Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Roedd y bleidlais ar 么l i'r Blaid Lafur ddod i gytundeb gyda Phlaid Cymru.

Disgrifiad o'r llun, Roedd angen i'r Blaid Lafur gael cytundeb gydag un o'r gwrthbleidiau er mwyn cymeradwyo'r gyllideb

Mae'r cytundeb yn golygu bod 'na 拢20 miliwn ychwanegol wedi ei roi i brentisiaethau ar gyfer rhai rhwng 16 a 24 oed y flwyddyn nesa'.

Bydd 拢10 miliwn o wariant cyfalaf wrth gefn dros y ddwy flynedd nesa' ar gyfer parc gwyddonol lle bydd arbenigedd prifysgolion Bangor ac Aberystwyth.

Cynlluniau fforddiadwy

Ar 么l caniat谩u am chwyddiant, mae'r gyllideb o 拢15.1 biliwn wedi ei thorri o dros 3% o'i chymharu 芒'r flwyddyn bresennol.

Penderfynodd gweinidogion beidio 芒 gwneud newid mawr i'r gyllideb ar 么l i bwyllgor o ACau fynegi amheuaeth a oedd y cynlluniau yn fforddiadwy.

Yn 么l y pwyllgor cyllid, doedden nhw ddim wedi eu hargyhoeddi y byddai'r Gwasanaeth Iechyd yn llwyddo i gadw o fewn eu cyllideb ac roedd pryder y byddai effeithiau ar adrannau eraill.

Dywedodd gweinidogion eu bod yn deall y pryderon am "gyflwyno agenda uchelgeisiol" ac y bydden nhw'n cadw golwg ar eu cynlluniau.

"Rydym wedi dod i'r canlyniad, ar y cyfan, fod neilltuo'r arian yn gywir fel ein bod yn gallu cyflwyno rhaglen y llywodraeth ac nad oes 'na dystiolaeth lethol sy'n awgrymu newid sylweddol," meddai llefarydd ar ran y pwyllgor.

Dywedodd y Ceidwadwyr fod y cytundeb yn "un rhad" fyddai'n rhoi pwysau ar wasanaethau rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd.

Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol, a wnaeth gytundeb gyda'r Blaid Lafur yn 2001, am fwy o arian ar gyfer addysgu plant o gefndir tlawd.