Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Bwriad i agor swyddfeydd post Cymru?
Mae cymunedau Cymru yn gyfarwydd 芒 swyddfeydd post yn cau mewn pentrefi yn ystod y degawd diwethaf.
Ond mae cynllun ar droed gan Swyddfa'r Post i ailagor canghennau ar safleoedd busnesau.
Mae'r newidiadau yn rhan o raglen fuddsoddi dros gyfnod o dair blynedd pan fydd tua hanner 12,000 o ganghennau Swyddfa'r Post yn cael eu troi'n ganghennau o fath newydd.
Yn 么l Swyddfa'r Post, mae'r buddsoddiad yn golygu na fydd unrhyw raglenni pellach i gau canghennau fel digwyddodd rhwng 2007 a 2009, pan gafodd 157 swyddfa bost eu cau.
Ymgynghoriad lleol
Bydd 拢1.34 biliwn gan Lywodraeth y DU yn cael ei wario ar foderneiddio'r rhwydwaith drwy gynllun Swyddfa'r Post Lleol.
Mae 14 cangen Swyddfa'r Post Lleol eisoes wedi agor yng Nghymru ac mae 12 arall yn rhan o ymgynghoriad fydd yn para chwe wythnos.
Mae'r canghennau hyn yn cynnig ystod eang o wasanaethau Swyddfa'r Post ond does dim gwasanaeth adnewyddu treth car na gwasanaeth pasport.
Un o'r rheiny yw'r swyddfa bost ym Mhentre-bach ger Llanwnnen yng Ngheredigion.
Caeodd yr hen swyddfa bost yno ym mis Rhagfyr 2011 ond mae bwriad i agor y gangen newydd yn Central Garage ym mis Ionawr.
Dywedodd perchennog y garej, Mike Jones, fod gwir angen y gwasanaeth yn yr ardal.
'Ffyddiog'
"Does dim swyddfa bost yn gwasanaethu pentrefi Llanwnnen, Drefach, Cwrtnewydd, Cwmsychbant, Gorsgoch a Chribyn, felly roeddwn i'n meddwl y byddai'n syniad da i agor swyddfa bost yma," meddai.
"Mae pobl leol wedi dweud wrthyf eu bod yn rhyfedd o falch i gael y gwasanaeth oherwydd ni fydd yn rhaid iddyn nhw deithio i Lanbed neu Lanybydder i ddefnyddio swyddfa'r post."
Dywedodd Ymgynghorydd Newidiadau Maes Swyddfa'r Post, Lisa Barton: "Mae'r is-bostfeistr newydd a minnau'n ffyddiog y bydd y gangen fodern newydd hon yn fwy hwylus o ran cynnig gwasanaeth i'n cwsmeriaid ac y bydd yn diogelu gwasanaethau ar gyfer y dyfodol."
Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar Ragfyr 18, 2012.
Fe gaeodd Swyddfa Post pentref Moelfre ar Ynys M么n tua phedair blynedd yn 么l.
Ers hynny mae'r trigolion wedi gorfod teithio i drefi Benllech neu Amlwch er mwyn cael gwasanaethau.
'Sachau yn llawn nwyddau'
Ond agorodd Swyddfa'r Post Lleol yn y 'Rhen Fecws yn y pentref ym mis Hydref.
Dywedodd y perchennog, Gwenda Parry, fod y swyddfa ar agor yr un oriau 芒'r siop, sef o 7:30am bob bore tan y bydd y siop yn cau gyda'r nos, ac y mae hefyd ar agor ar benwythnosau.
"Mae'n golygu y byddwn ni'n agored am fwy o oriau na Swyddfeydd Post arferol," meddai.
"Rydym wedi bod yn brysur iawn ac ry'n ni wedi synnu faint o bobl sy'n defnyddio'r swyddfa am eu bod yn gwerthu nwyddau ar y we.
"Mae rhai pobl yn dod 芒 sachau yn llawn nwyddau yma.
"Rydym hefyd wedi synnu bod gymaint o bobl yn dal i godi eu pensiwn ar fore Llun er eu bod yn gallu ei godi unrhyw bryd erbyn hyn."