Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Wylfa: Cwblhau cytundeb
Cadarnhaodd cwmni Hitachi eu bod wedi cwblhau cytundeb i brynu cynllun niwclear Horizon, sy'n cynnwys codi atomfa newydd yn Wylfa ar Ynys M么n.
Roedd y cynllun yn cael ei werthu gan gwmn茂au RWE ac E.ON o'r Almaen.
Hitachi nawr yw perchnogion y ddau safle yn Wylfa ar Ynys M么n ac Oldbury yn Lloegr, a dywed y cwmni o Japan eu bod yn bwriadu codi dwy neu dair atomfa fydd yn cynhyrchu 1,300 megawatt (MW) ar bob un.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Bydd Hitachi nawr yn dechrau trafodaethau gyda rheoleiddwyr y DU i gael caniat芒d i ddefnyddio technoleg adweithyddion ABWR (Advanced Boiling Water Reactor) o dan broses Asesiad Dylunio'r DU."
Ychwanegodd y cwmni, a gyhoeddodd ym mis Hydref eu bod am brynu cynllun Horizon, eu bod yn gobeithio y bydd yr adweithydd cyntaf yn gweithio erbyn canol y 2020au.
Gobaith llywodraeth y DU yw y bydd cynllun Horizon yn y pen draw yn cynnwys chwe atomfa a fyddai'n gallu cyflenwi trydan i 14 miliwn o gartrefi am 60 mlynedd.
Fe dalodd Hitachi 拢696 miliwn am gynllun Horizon, ac fe ddywedodd y cwmni eu bod yn cynnal trafodaethau er mwyn dod o hyd i gwmni arall i weithredu'r atomfeydd pan fyddan nhw wedi eu cwblhau.