Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Papur Gwyn: 'Taclo trais yn y cartref'
Bydd disgyblion yn cael eu haddysgu am berthynas iach fel rhan o ymdrech i daclo trais yn y cartref.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu cynlluniau i newid agwedd pobl yngl欧n 芒 thrais yn erbyn menywod a gwella gwasanaethau i ddioddefwyr.
Mae'r papur gwyn yn cynnwys ymrwymiad y dylai pob ysgol yng Nghymru ddarparu addysg am berthynas iach.
Dywedodd y Gweinidog Cymunedau, Carl Sargeant, fod "bylchau" o ran y cymorth sydd ar gael i fenywod sy'n dioddef trais yn y cartref.
'Gofyn a gweithredu'
Bydd y Mesur, l Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod a Cham-drin Domestig, yn galluogi cynghorau a byrddau iechyd i asesu pa wasanaethau sydd eu hangen gan ddioddefwyr.
Bydd swydd newydd, sef cynghorydd annibynnol i'r Gweinidog, yn cael ei chreu gyda phwerau i ymchwilio i weld a yw cyrff cyhoeddus yn cydymffurfio 芒'r ddeddfwriaeth.
Mae yna gymal hefyd i sefydlu fframwaith hyfforddi yn y maes ar gyfer staff rheng flaen.
Dywed swyddogion fod y cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr yn "anghyson" .
Maen nhw am i wasanaethau gydweithio a rhannu gwybodaeth am bobl sy'n agored i niwed.
Mae Heddlu Gwent eisoes yn cynnal cydalwadau ag asiantaethau eraill i fynd i'r afael ag achosion o gam-drin yn y cartref.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod am ymyrryd yn gynharach i ddelio 芒'r fath achosion.
'Deddfwriaeth arloesol'
Maent yn amcangyfrif bod delio 芒'r broblem yn costio 拢300 miliwn y flwyddyn i wasanaethau cyhoeddus a bod 拢100miliwn yn cael ei golli mewn cynnyrch economaidd.
Canfu ymchwil gan banel o arbenigwyr fod cysylltiad cryf rhwng pobl yn tystio trais yn y cartref a'r tebygolrwydd y byddant yn dreisgar yn ddiweddarach yn eu bywydau.
Gwnaeth arolwg o agwedd pobl gan gwmni Ipsos Mori yng Nghymru a Lloegr ganfod bod 14% o ddynion a 19% o fenywod yn meddwl ei fod yn dderbyniol, o dan rai amgylchiadau, i ddyn daro neu slapio ei wraig neu gariad os oedd hi'n ei dwrdio neu'n cwyno amdano'n gyson.
Canfu Amnest Rhyngwladol fod 22% o bobl yn meddwl bod menyw o leiaf yn rhannol gyfrifol am gael ei threisio os oedd hi wedi cael rhyw gyda nifer o bartneriaid.
Dywedodd Mr Sargeant fod rhai gwelliannau wedi eu gwneud ond bod "bylchau o ran darpariaeth y gwasanaethau yn dal i fodoli ac na allwn ni ddibynnu ar ewyllys da, ffawd nac unigolion i wneud gwahaniaeth".
"Rwy'n credu bod genyn ni ddyletswydd i daclo'r mater hwn ac rwy'n credu bod y ddeddfwriaeth - sydd wed ei hamlinellu yn y papur gwyn - yn ein helpu i gymryd camau mawr i lwyddo i orffen trais yn erbyn menywod, trais yn y cartref a thrais rhywiol yng Nghymru."