Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Achub eryr fu'n sownd mewn coeden
Bu'n rhaid i'r gwasanaeth t芒n achub eryr aur oedd wedi mynd yn sownd mewn coeden ym Mhontycymer ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Bu'n rhaid torri'r goeden i lawr mewn proses a barodd am dair awr.
Cyn hynny, roedd yr heddlu wedi cyhoeddi rhybudd i'r cyhoedd i fod yn wyliadwrus wedi i'r eryr ddianc o adardy.
Hedfanodd yr eryr benywaidd o'r fferm yn ystod nos Lun, Tachwedd 5, gyda'i hualau a lein yn dal yn sownd iddi, a'r hualau hynny a barodd iddi fynd yn sownd yn y goeden.
Cafodd y cyhoedd gyngor i beidio 芒 mynd at yr aderyn, ond yn hytrach i ffonio'r heddlu ar 101 os fyddan nhw'n ei gweld hi.
Mae gan yr eryr led adenydd o 6'5" ac mae'n pwyso 16 pwys.
'Aderyn cryf a grymus'
Cyn iddi gael ei hachub, dywedodd Swyddog Bywyd Gwyllt ac Amgylchedd o Heddlu De Cymru, Cwnstabl Mark Goulding: "Mae'r eryr aur yn frid caeth ac yn gyfarwydd 芒 phobl, ond mae'n aderyn cryf a grymus iawn ac ni ddylai unrhyw un fynd ati.
"Pan ddihangodd yr aderyn roedd newydd gael ei bwydo, felly mae'n debyg y bydd ond yn dangos ei hun pan fydd wedi blino ac eisiau bwyd, ac fe all hynny gymryd hyd at 10 diwrnod.
"Byddwn yn gofyn i bobl fod yn wyliadwrus ac i gysylltu 芒 ni os fyddan nhw'n gweld yr eryr.
"Er nad yw'r eryr yn fygythiad i ddiogelwch y cyhoedd, peidiwch da chi a cheisio'i ddal.
"Dim ond pobl sy'n trin adar yn broffesiynol ddylai fynd at yr eryr."