Wrecsam yn codi i'r ail safle

Ffynhonnell y llun, Other

Stockport County 2-3 Wrecsam

Mae Wrecsam wedi codi i'r ail safle yn Uwchgynghrair Blue Square bet yn dilyn buddugoliaeth oddi cartref yn Stockport nos Fercher.

Roedd y 23 cyntaf yn anodd i'r ymwelwyr, ac fe aeth Stockport ar y blaen ar ddiwedd y cyfnod yna wrth i Danny Hattersley rwydo yn dilyn croesiad gan Sean Newton.

Ond roedd Wrecsam yn gyfartal o fewn munud. Roedd dryswch yng nghwrt cosbi Stockport yn dilyn cic gornel gan Wrecsam, ac fe wyrodd y b锚l oddi ar Craig Hobson i'w rwyd ei hun.

Dyna oedd y sbardun i Wrecsam ddechrau chwarae, ac o gic gornel arall roedd trosedd yn y cwrt cosbi ar Chris Westwood wedi 37 munud.

Neil Ashton gafodd y cyfrifoldeb o'r smotyn, ac fe sgoriodd i roi Wrecsam ar y blaen ar yr egwyl.

Gorfoledd a siom

Andy Coughlin oedd golwr Wrecsam ar y noson gan fod Joslain Mayebi i ffwrdd ar ddyletswydd rhyngwladol, ac roedd ef a golwr Stockport, Lewis King, yn ddigon prysur yn yr ail hanner.

Ond roedd Ashton ar fin profi gorfoledd a siom o fewn eiliadau.

Wedi 81 munud fe gafodd Wrecsam ail gic o'r smotyn wedi trosedd gan y golwr ar Danny Wright, ac fe sgoriodd Ashton ei ail g么l o'r smotyn.

Ond be benderfynnodd y dyfarnwr bod dathliad Ashton yn haeddu cerdyn melyn - gan mai dyna ei ail gerdyn yn y g锚m, trodd y melyn yn goch ac fe adawodd y maes.

Roedd rhaid i Wrecsam amddiffyn am weddill y g锚m, ond o fewn dau funud roedd Danny Hattersley hefyd wedi sgorio eilwaith i'w gwneud hi'n 2-3.

Ond fe ddaliodd Wrecsam eu gafael am driphwynt gwerthfawr sy'n eu codi o fewn tri i Casnewydd ar y brig.