Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Gwybodus a brwdfrydig'
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi penodi tenant newydd i gartref Hedd Wyn, Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd.
Ym mis Gorffennaf cyhoeddodd yr awdurdod mai cwmni lleol fyddai'n gyfrifol am y broses o ddod o hyd i denant i ffermio'r tir a chyhoeddwyd ddydd Iau mai Meilir Jarrett, 23 oed o Drawsfynydd, fydd y tenant newydd.
Bydd yn dechrau yn yr adeilad cofrestredig Gradd II sy'n cynnwys ffermdy, byngalo - a thir ffermio - ar Dachwedd 1.
'Gwybodus a brwdfrydig'
Ar ran yr awdurdod parc dywedodd y Cyfarwyddwr Rheoli Tir, Emyr Williams: "Roedd penodi tenant i ffermio a rheoli'r tir amaethyddol yn rhan allweddol o reolaeth gynaliadwy y tir.
"Mae Meilir yn hogyn ifanc, lleol, gwybodus a brwdfrydig ac edrychwn ymlaen at gael cydweithio gyda'n gilydd er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus a llwyddiannus i'r Ysgwrn."
Mae'n fferm fynyddig ac yn cwmpasu 170 erw o dir amaethyddol, hawliau pori comin, beudai ynghyd 芒 da byw sy'n cynnwys 200 o ddefaid Cymreig a 5 o heffrod duon Cymreig.
'Milltir sgw芒r'
Dywedodd Meilir: "Rwy'n hynod falch o gael y cyfle gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i ddechrau amaethu.
"Rwy'n lwcus fy mod i am fedru gweithio yn fy milltir sgw芒r, ond hefyd mewn daliad mor adnabyddus a phwysig o ran hanes a diwylliant Cymru."
Farmers Marts (R.G. Jones) oedd yr asiant oruchwyliodd weinyddu ceisiadau'r denantiaeth a'r un cwmni fydd hefyd yn gyfrifol am arwerthiant offer amaethyddol Yr Ysgwrn fore Sadwrn, Medi 22.