Galwadau 999 amhriodol yn broblem

Ffynhonnell y llun, 91热爆 news grab

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y gwasanaeth ambiwlans ddwy alwad gan ddynion oedd yn diodde' oherwydd goryfed y noson gynt

Mae cyfarwyddwr meddygol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru wedi rhybuddio bod pwysau mawr ar wasanaethau oherwydd galwadau 999 amhriodol.

Dywedodd Dr Chris Jones - sydd hefyd yn Brif Swyddog Meddygol Cymru dros dro - bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac adrannau brys ysbytai ar draws y wlad o dan bwysau anarferol a pharhaus.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae cyfuniad o fwy o alwadau 999 a mwy o bobl yn mynd i adrannau brys ysbytai wedi cynyddu'r pwysau yn fwy nag erioed.

Mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi cyhoeddi manylion rhai enghreifftiau o'r galwadau a dderbyniwyd dros y misoedd diwethaf.

Mae'n cynnwys:

  • Menyw yn ffonio 999 wedi i fochdew frathu ei bys;
  • Dwy alwad gan ddynion oedd yn diodde' o effeithiau goryfed y noson gynt;
  • Dyn yn ffonio 999 yn cwyno nad oedd ganddo gymorth i rwbio eli ar ei gefn;
  • Ambiwlans yn cludo dyn oedd wedi ffonio 999 yn cwyno o boen stumog i'r ysbyty, ond wrth gyrraedd yno neidiodd y dyn allan a rhedeg i ffwrdd gan waeddi "Diolch am y pas adre".

'Prysur iawn'

Eglurodd Dr Jones nad yw pawb sy'n mynd i adran ddamweiniau ysbytai neu yn ffonio 999 yn achosion brys.

"Rydym yn gweld nifer cynyddol o alwadau 999 amhriodol i'r Gwasanaeth Ambiwlans," meddai.

"Dylid ond ffonio 999 pan mae yna argyfwng meddygol.

"Mae gwasanaethau iechyd brys i gyd yn brysur iawn, a dylai pobl ond fynd i adran ddamweiniau os ydyn nhw wedi cael anaf drwg neu yn s芒l iawn.

"Mae gan gleifion r么l i'w chwarae i ysgafnhau'r pwysau ar y gwasanaethau a byddwn yn eu hannog i ddefnyddio gwasanaeth Dewis Doeth.

"Bydd y gwasanaeth yma yn cynorthwyo pobl i wneud y dewis cywir er mwyn derbyn y driniaeth fwyaf perthnasol."

Mae yn wefan gan y gwasanaeth a bellach hefyd ar gael fel 'app' ar gyfer ffonau iPhone yn rhad ac am ddim.