Breindaliadau: Lansio asiantaeth newydd

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Musicians staged a one-day 'strike' in December, refusing to let Radio Cymru play their music

Mae gr诺p o gerddorion Cymraeg wedi penderfynu ffurfio asiantaeth i drafod hawliau darlledu yn dilyn anghydfod pum mlynedd ynghylch taliadau breindal.

Mae'r Gynghrair (Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerddoriaeth Cymru) yn honni bod y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg wedi colli 拢1.2m yn dilyn newidiadau gan y Gymdeithas Hawliau Perfformio (PRS).

Dywed Y Gynghrair fod y symiau y maen nhw'n eu derbyn wedi gostwng 85% ers i wasanaeth 91热爆 Radio Cymru gael ei drin fel gwasanaeth radio lleol yn hytrach na darlledwr cenedlaethol.

Dywedodd llefarydd ar ran y 91热爆 eu bod yn "cadw llygad ar unrhyw ddatblygiadau".

'Pitw'

Cafodd y posibilrwydd o sefydlu corff newydd i gasglu breindaliadau ar ran cerddorion Cymraeg ei wyntyllu'n gyntaf yn 2010.

Yn 2007, newidiodd y PRS y fformiwla sy'n cael ei defnyddio i dalu am gerddoriaeth sy'n cael ei darlledu yng Nghymru.

Yn 么l adroddiad gan y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn 2010, byddai artistiaid sy'n darlledu eu gwaith ar Radio Cymru yn derbyn 49 ceiniog am bob munud sy'n cael eu darlledu.

O ganlyniad i hyn lleihaodd breindaliadau yng Nghymru o 拢1.6 miliwn yn 2007 i 拢260,000 yn 2009.

Disgrifiad o'r llun, Y gred yw y bydd artistiaid fel Yr Ods yn ymuno 芒'r Gynghrair

Am ddiwrnod ym mis Rhagfyr y llynedd fe wrthododd aelodau Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerdd Cymru ganiat谩u i'w cerddoriaeth gael ei chwarae ar Radio Cymru fel protest.

Mae'r cerddorion wedi dweud bod newid dull y Gymdeithas o gasglu a thalu breindaliadau yn golygu bod y symiau y maen nhw'n eu derbyn yn "bitw".

'Cynhyrchiol'

Mae'r Gymdeithas wedi dweud bod y fformiwla bresennol yn talu 59c y funud i gerddorion pan fydd eu cynnyrch yn cael ei chwarae ar Radio Cymru. Yn flaenorol, y swm oedd 89c y funud.

Dywed ymgyrchwyr y byddai cyfansoddwyr a chyhoeddwyr yng Nghymru yn dal i fod yn aelodau llawn o'r PRS ac y bydden nhw'n dal i dderbyn breindaliadau o'r PRS am hawliau eraill fel defnydd rhyngwladol a pherfformiadau byw.

Ond byddai hawliau darlledu ar gyfer tua 50,000 o ddarnau cerddorol yn y DU yn cael eu trosglwyddo i asiantaeth annibynnol fydd yn cael ei chreu ym mis Tachwedd gan geisio ennill cyfradd uwch o daliadau na chyfradd y PRS.

'Anhygoel'

Dywedodd Gwilym Morus, sy'n gyfrifol am drosglwyddo'r hawliau darlledu o'r PRS i'r asiantaeth newydd, y byddai'r gynghrair yn gwarchod ffynhonnell bwysig o incwm i'r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg.

"Mae'n anhygoel faint o gerddoriaeth Gymraeg sydd wedi cael ei chreu ac mae hyn yn dangos pa mor gynhyrchiol mae ysgrifenwyr a chyhoeddwyr Cymraeg wedi bod erioed," meddai.

"Mae'n amlwg mai'r asiantaeth newydd yw'r ffordd orau o sicrhau bod y diwydiant yn gallu parhau i fod yr un mor gynhyrchiol yn y dyfodol gan warchod incymau unigolion a chwmn茂au, boed yn fawr neu'n fach."

Y gred yw y bydd cwmn茂au Sain, Fflach ac Ankst ymysg y cyhoeddwyr cerddoriaeth Cymraeg fydd yn ymuno 芒'r Gynghrair ochr yn ochr ag artistiaid fel Bryn F么n, Gai Toms, Meic Stevens, Cowbois Rhos Botwnnog a'r Ods.

Mae'r Gynghrair yn bwriadu cynnal cyfarfod ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol am 4pm ddydd Gwener i hyrwyddo'r fenter.

Dywedodd llefarydd ar ran y 91热爆: "Rydym yn ymwybodol fod trafodaethau yn cael eu cynnal rhwng y PRS a'r Gynghrair ac er lles ein cynulleidfa fe fyddwn yn cadw llygad ar unrhyw ddatblygiadau."