Dewis tenant ar gyfer Yr Ysgwrn

Ffynhonnell y llun, SNPA

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Yr Ysgwrn ei brynu i'r genedl ddechrau mis Mawrth

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cyhoeddi mai cwmni lleol fydd yn oruchwylio'r broses ceisiadau cyn dod o hyd i denant i ffermio tir Yr Ysgwrn ger Trawsfynydd.

Ym mis Mawrth cyhoeddodd awdurdod y parc a phartneriaid eu bod wedi sicrhau fferm deuluol y bardd Hedd Wyn ar gyfer y genedl.

Mae'r eiddo'n cynnwys y ffermdy, tai allan, byngalo, tir amaethyddol, chwe chadair Eisteddfod a deunydd archifol pwysig.

Gwireddwyd y pryniant oherwydd cyfraniadau ariannol Llywodraeth Cymru a Chronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol.

Mae'r fferm fynyddig yn cwmpasu 170 erw o dir amaethyddol, hawliau pori cyffredin, beudai ynghyd 芒 da byw sy'n cynnwys 200 o ddefaid Cymreig a 5 o heffrod duon Cymreig.

'Gwreiddiau'

Mae awdurdod y parc wedi penodi Farmers Marts (R G Jones) yn asiant fydd yn goruchwylio'r broses o weinyddu'r ceisiadau tenantiaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Mae'r cwmni a'i wreiddiau'n ddwfn yn ardal Meirionnydd ac rydym yn hynod falch o gael gweithredu ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i oruchwylio'r broses.

"Mae'r cyfle i ddod yn denant ar y safle pwysig heb os am greu diddordeb ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyfochr ac awdurdod y parc i ganfod y person cywir i ffermio'r tir yn Yr Ysgwrn."

Cynaliadwy

Ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, dywedodd y Prif Weithredwr, Aneurin Phillips: "Mae canfod tenant i ffermio a rheoli'r tir amaethyddol yn Yr Ysgwrn yn rhan allweddol o reolaeth gynaliadwy y tir.

"Trwy benodi R G Jones rydym yn hyderus o'u harbenigedd wrth brisio a gwerthu eiddo amaethyddol ynghyd 芒'u gwybodaeth leol amhrisiadwy.

"O dan eu harweiniad nhw, rwy'n hyderus y medrwn benodi unigolyn neu unigolion i fod yn denant ar safle hanesyddol a diwylliannol bwysig."

Disgwylir i'r broses wneud ceisiadau ar gyfer y denantiaeth agor mis Awst.