Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Coleman i ofyn barn am Shawcross
Bydd rheolwr t卯m p锚l-droed Cymru yn ymgynghori gyda'i gapten cyn gofyn i Ryan Shawcross chwarae i Gymru.
Fe fydd Chris Coleman yn awyddus i glywed barn Aaron Ramsey gan mai Shawcross dorrodd goes Ramsey mewn g锚m rhwng Stoke ac Arsenal yn 2010.
Yn fuan wedi'r digwyddiad - roedd Ramsey allan o'r g锚m am bron flwyddyn - gwrthododd Ramsey ymgais Shawcross i ymddiheuro.
Yn wreiddiol, roedd Shawcross, 24 oed, wedi mynegi ei ddyhead i chwarae i Loegr ond wedi i Roy Hodgson ei adael allan o garfan Lloegr ar gyfer Euro 2012, mae Coleman yn ystyried gofyn iddo chwarae i Gymru.
Mae'n gymwys gan iddo gael ei addysg yng Nghymru am bum mlynedd.
'Parch mawr'
Mewn cyfweliad gyda phapur newydd, dywedodd Coleman: "Mae Ryan yn chwaraewr da allai gryfhau'r garfan.
"Fe fydda i'n cael sgwrs gydag Aaron gan ei fod yn rhywun yr ydw i'n ei barchu'n fawr - fe yw ein capten ac mae'n chwaraewr pwysig.
"Dydw i ddim am osgoi'r mater gan ei fod yn sensitif."
Mae Coleman yn gobeithio y bydd amddiffynnwr Caerdydd, Ben Turner, a chefnwr Abertawe, Angel Rangel, yn dewis cynrychioli Cymru wrth i'r t卯m baratoi ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn 2014.