Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Camlesi ac afonydd Cymru o dan ofal elusen newydd
Corff newydd elusennol sy'n gyfrifol am afonydd a chamlesi Cymru.
Mae yna dros 116 cilometr (72 milltir) o gamlesi yng Nghymru.
Cafodd ymddiriedolaeth Gland诺r Cymru ei ffurfio ar 么l i Ddyfrffyrdd Prydain gael ei ddiddymu ddechrau mis Gorffennaf.
Mae'n rhan o gorff ehangach, Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd - sy'n gyfrifol am y 2,000 milltir o ddyfrffyrdd yng Nghymru a Lloegr.
Daeth y newid wedi i Ddyfrffyrdd Prydain, oedd yn gorff gwladol, fynd i drafferthion.
Roedden nhw'n dibynnu'n helaeth ar arian gan y llywodraeth ac yn derbyn ychydig iawn o grantiau elusennol.
O'r herwydd, roedd gan Dyfrffyrdd Prydain ddyledion o 拢30m erbyn 2009.
Cymunedau
Dyma'r tro cynta' yn y DU i gorff gwladol drosglwyddo i'r sector elusennol, a bydd yr Ymddiriedolaeth yn un o'r elusennau mwya' yn y wlad.
Y nod, yn 么l yr Ymddiriedolaeth, yw ei gwneud yn haws i ddenu nawdd ar gyfer y dyfrffyrdd, a sicrhau bod cymunedau yn cael chwarae mwy o r么l.
Mae disgwyl i'r dyfrffyrdd mewndirol, sydd o dan ofal Asiantaeth yr Amgylchedd, drosglwyddo i ofal yr Ymddiriedolaeth erbyn 2015.
Mae dyfrffyrdd Yr Alban, ar y llaw arall, yn parhau o dan ofal y wladwriaeth am y tro.
Bydd yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yn derbyn grantiau penodol gan Adran Amaeth San Steffan, Defra, dros y 15 mlynedd nesa'.
Byddan nhw hefyd yn codi t芒l am drwyddedau i bobl ddefnyddio'r dyfrffyrdd.
Yn y cyfamser, mae'r Ymddiriedolaeth wedi sicrhau tri o bartneriaid corfforaethol i gefnogi'r elusen - Google, Ymddiriedolaeth C么d Post y Bobl a Banc y Co-Operative.
Dywedodd cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Tony Hales, eu bod wrth eu bodd o gael cefnogaeth wrth gychwyn y gwaith.
"Dyma arwydd amlwg o hyder ynom ac yn gydnabyddiaeth o'r r么l bwysig y byddwn ni'n chwarae fel gwarchodwyr un o drysorau amgylcheddol ein cenedl."
Pontcysyllte
Mae lansiad yr Ymddiriedolaeth yn cael ei nodi gyda digwyddiadau ar hyd a lled y wlad ddydd Iau, gan gynnwys noson arbennig ger Traphont Pontcysyllte, Llangollen.
Bydd y draphont yn cael ei goleuo rhwng 9-11pm, a bydd cyngerdd yn cael ei gynnal o dan y bont gyda pherfformiadau gan fandiau a chorau lleol.
Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd yn lansio eu hap锚l gynta' erioed - 50 o gynlluniau ar draws y wlad i roi "bywyd newydd i lwybrau tynnu a glannau afonydd, gyda phob ceiniog yn cael ei wario'n uniongyrchol ar gynnal, adnewyddu a gwella camlesi ac afonydd".