Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Caerdydd yn gartref i Super Cup UEFA yn 2014
Mae UEFA wedi cyhoeddi y bydd enillwyr Cynghrair y Pencampwyr a Chynghrair Europa yn wynebu ei gilydd yng Nghaerdydd mewn dwy flynedd.
Ers ei chynnal am y tro cyntaf 14 blynedd yn 么l, Monaco sydd wedi bod yn gartref i g锚m y Supercup.
Fe wnaeth UEFA gyhoeddi ddydd Sadwrn y bydd y rownd y g锚m yn 2014 yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Ond dydi'r lleoliad yng Nghaerdydd ddim wedi ei gadarnhau.
Petai dau glwb mawr yn y rownd derfynol, mae'n bosib y gall y g锚m gael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru bod hyn yn "newyddion gwych".
Timau gorau
"Mae'n dangos unwaith eto bod ein prifddinas yng 'nghynghrair y pencampwyr' ei hun o ran cynnal prif ddigwyddiadau chwaraeon.
"Fe fydd y gystadleuaeth yn hwb sylweddol, nid yn unig i'r ddinas ond i ddelwedd fyd-eang Cymru."
Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas B锚l-Droed Cymru, Jonathan Ford, eu bod yn falch fod Caerdydd yn mynd i lwyfannu g锚m mor arbennig.
"Mae'n gyfle gwych i gefnogwyr p锚l-droed yng Nghymru weld y ddau d卯m gorau yn Ewrop mewn un g锚m arbennig."
Eleni fe fydd Chelsea, enillodd Gynghrair y Pencampwyr, yn wynebu enillwyr Cynghrair Europa, Atl茅tico Madrid, yn Monaco ar Awst 31.
Bydd y gystadleuaeth yn symud i Br芒g ac i Stadiwm Eden y flwyddyn nesaf.
Yn Tblisi, Georgia, y bydd y rownd derfynol yn 2015.