Eglwys yng Nghymru: 'Dim s么n'

Disgrifiad o'r llun, Dechreuodd yr ymgynghori yng nghanol Mawrth

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi ymateb i ymgynghoriad am briodasau hoyw.

Yn eu datganiad maen nhw wedi nodi nad oes s么n amdanyn nhw yn nogfen Llywodraeth y DU, dim ond Eglwys Loegr.

Ond dywedodd yr Eglwys yng Nghymru bod eu safbwynt nhw bron yn union yr un peth ag un Eglwys Loegr mewn perthynas 芒 gweinyddu priodasau.

Felly roedden nhw hefyd yn poeni am oblygiadau cyfreithiol.

Dywedodd llefarydd y bydden nhw'n gofyn am sicrwydd Llywodraeth y DU y bydden nhw'n cynnwys yr Eglwys yng Nghymru mewn unrhyw ddeddfwriaeth.

Nod y llywodraeth yw cyfreithloni priodasau hoyw ond mae Eglwys Loegr wedi dweud y byddai hyn yn newid natur "'priodas" yn llwyr.

'Yn gresynu'

Dywedodd yr Eglwys yng Nghymru "Rydym yn gresynu bod yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar yr ymarfer o gofrestru a chydnabod priodasau unrhyw, ac nad yw'n gwahodd sylwadau am yr egwyddor.

"Mae 11 o'r 16 cwestiwn yn gofyn am ateb 'Ie', 'Na', neu 'Ddim yn berthnasol i mi' a dim ond un cwestiwn sy'n rhoi'r cyfle i roi ateb llawnach.

"Ac mae chwech o'r cwestiynau wedi eu hanelu at bobl sydd mewn perthynas unrhyw - mae hyn yn awgrymu agwedd arunig tuag at y sefydliad o briodas, sydd yn sefydliad mewn cymdeithas yn hytrach na threfniant preifat rhwng unigolion."

Ffynhonnell y llun, 91热爆

Disgrifiad o'r llun, Yn wfftio beirniadaeth: Theresa May

Mae'r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, wedi amddiffyn cynlluniau'r llywodraeth gan fynnu na fydden nhw'n gorfodi pobl i wneud unrhyw beth yn erbyn eu cydwybod ac na fyddai eglwysi na grwpiau ffydd eraill yn cael eu gorfodi i gynnal priodasau unrhyw.

Dywedodd yr Eglwys yng Nghymru eu bod yn amau'r defnydd o'r gair "gwaharddiad'"ar briodasau hoyw.

Nid gwahardd rhywbeth sydd eisoes yn bodoli y mae'r ddeddfwriaeth arfaethedig, medden nhw, ond creu rhywbeth cwbl newydd a dylid cydnabod hynny yn y ddeddfwriaeth.

'Peryglon'

Ychwanegodd y datganiad: "Rydym yn cydnabod bod y llywodraeth yn ceisio caniat谩u i eglwysi a grwpiau ffydd eraill gadw at eu safbwyntiau traddodiadol ar briodas.

"Ond mae'r ddogfen ymgynghorol yn cyfeirio'n gyson at y gwahaniaeth rhwng priodasau sifil a phriodasau crefyddol. Nid oes gwahaniaeth cyfreithiol rhwng y ddau.

"Nid yw'n glir felly ym mha ffordd y bydd priodasau unrhyw yn wahanol o'r trefniadau presennol am bartneriaethau sifil, na beth yw pwrpas cadw'r categori presennol o bartneriaeth sifil ochr yn ochr 芒 phriodasau unrhyw.

"Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i ddarparu gofal bugeiliol a chefnogaeth i'r rhai sy'n ymrwymo i'r dasg bwysig o gadw mewn perthynas ffyddlon, a hybu bywyd teuluol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Eglwys yng Nghymru hefyd yn poeni am oblygiadau cyfreithiol

'Ddim yn ychwanegu'

"Mae trefniadau sy'n cydnabod a chefnogi pob perthynas fel hyn i'w croesawu, ond mae darpariaeth ar gyfer hynny yn barod.

"Y tu hwnt i'r peryglon o ddryswch sylweddol a dadlau, nid yw'r argymhellion presennol yn ychwanegu at y ddarpariaeth."

Yn y cyfamser, mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi wfftio beirniadaeth bod cyfnod yr ymgynghoriad - tri mis - yn rhy fyr, gan ddweud bod trafodaethau eisoes wedi eu cynnal gydag Eglwys Loegr.