Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Tafarn y Vulcan i fynd i Sain Ffagan
Bydd un o dafarndai hynaf y brifddinas yn cael ei dymchwel a'i symud i amgueddfa Sain Ffagan.
Mae'r Vulcan yn Adamstown yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Bydd staff o'r amgueddfa yn mynd yno i gymryd mesuriadau a thynnu lluniau cyn y bydd yr adeilad yn cael ei symud.
Fe wnaeth y bragwyr SA Brain gau'r dafarn nos Iau, gan ddweud nad oedd dyfodol masnachol iddi.
Dywedodd yr amgueddfa na fydd y gwaith o ailadeiladu'r dafarn yn dechrau am sawl blwyddyn, ond maen nhw'n apelio am luniau hanesyddol ohoni.
Meini prawf
Gan fod bygythiad wedi bod ers blynyddoedd y gallai'r adeilad gael ei ddymchwel, llofnodwyd deiseb gan 5,000 o bobl yn galw am ei ddiogelu.
Cafodd cais i Cadw, sef sefydliad hanesyddol Llywodraeth y Cynulliad, i ddiogelu'r Vulcan ei wrthod ar 么l dod i'r casgliad nad oedd yn bodloni'r meini prawf angenrheidiol ar gyfer adeilad o bwys cenedlaethol.
Mae pobl sy'n mynychu'r dafarn wedi dweud eu bod yn siomedig fod y Vulcan yn cael ei dinistrio, ond eu bod o blaid ei chadw hi yn yr amgueddfa.
Dywedodd perchnogion y dafarn, SA Brain, eu bod wedi derbyn gorchymyn prynu gorfodol oherwydd datblygiad canolfan siopa Dewi Sant.
'Dim dewis'
Yn 么l eu prif weithredwr, Scott Waddington: "Doedd dim dewis gennym.
"Rydym wedi cadw'r dafarn i fynd yn ddiweddar er bod nifer y cwsmeriaid, ac felly'r incwm, wedi gostwng."
Roedd y bragdy yn rhedeg y dafarn ar les o'r perchnogion, Marcol Asset Management Limited, sydd wedi cytuno i'w rhoi i'r amgueddfa.
Dywedodd dirprwy gyfarwyddwr yr amgueddfa, Mark Richards: "Fe fydd y Vulcan yn cael ei chroesawu i'r casgliad o adeiladau hanesyddol yn Sain Ffagan.
"Rydym yn ddiolchgar iawn i Marcol am roi'r adeilad i ni".
Yn 么l deiliaid olaf y drwydded yn y dafarn, Gwyn a Sandra Lewis: "Ry' ni'n edrych ymlaen at weld y dafarn yn Sain Ffagan.
"Bydd gennym atgofion melys o'n cyfnod byr yma".