Cosb o 拢70,000 i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yw'r corff cyntaf yn y GIG i gael eu cosbi fel hyn

Bwrdd Iechyd o Gymru yw'r corff Gwasanaeth Iechyd Gwladol cyntaf i dderbyn cosb ariannol am dorri'r Ddeddf Gwarchod Gwybodaeth.

Dywedodd swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ddydd Llun bod Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan - sy'n gwasanaethu rhan o dde-ddwyrain Cymru - wedi cael dirwy o 拢70,000 wedi i adroddiad sensitif - oedd yn cynnwys manylion am iechyd claf - gael ei anfon at y person anghywir.

Digwyddodd y camgymeriad pan anfonodd ymgynghorydd e-bost at ysgrifenyddes heb gynnwys digon o wybodaeth i ganiat谩u i'r ysgrifenyddes adnabod y claf cywir.

Cafodd enw'r claf ei gamsillafu, ac fe arweiniodd hynny at yr adroddiad yn cael ei anfon at gyn-glaf gydag enw tebyg iawn ym mis Mawrth y llynedd.

Canfu ymchwiliad gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth nad oedd yr un o'r ddau aelod o staff wedi cael hyfforddiant gwarchod gwybodaeth, ac nad oedd gan y bwrdd systemau gwirio digonol i sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei anfon at y person cywir.

'Poenus iawn'

Dywedodd Stephen Eckersley, Pennaeth Gorfodaeth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, bod cofnodion iechyd yn cynnwys peth o'r wybodaeth fwyaf sensitif sy'n bod.

"Mae'r niwed a phoendod sy'n cael ei achosi wrth golli cofnodion iechyd claf yn amlwg, ac mae'n hanfodol felly bod cyrff yn y sector yma yn sicrhau bod eu hymarferion gwarchod gwybodaeth yn ddigonol.

"Methodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan 芒 gosod system wirio mewn lle er mwyn cadw'r wybodaeth yn ddiogel.

"Gallai'r achos yma fod wedi bod yn boenus iawn i'r unigolyn a'r teulu, ond fe allai fod wedi osgoi'r cyfan petai'r wybodaeth wedi ei gwirio cyn ei anfon.

"Rydym yn falch bod y Bwrdd Iechyd bellach wedi ymroi i weithredu i ddatrys y problemau ddaeth i'r amlwg yn ein hymchwiliad, ond rhaid i gyrff eraill ar draws y GIG dalu sylw i'r penderfyniad yma os ydyn nhw am osgoi cosb gan y swyddfa yma yn y dyfodol."

Mesurau

Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi arwyddo addewid i ateb y pryderon a fynegwyd gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn yr ymchwiliad.

Mae'r rhain yn cynnwys :-

  • Sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o bolis茂au'r corff ar gadw a defnyddio data personol, ac yn cael hyfforddiant ar hynny;
  • Sicrhau bod gwirio cyson a phriodol o gydymffurfiaeth gyda pholis茂au gwarchod gwybodaeth a diogelwch technoleg gwybodaeth;
  • Bod prosesau gwirio newydd yn cael eu cyflwyno ar draws eu holl safleoedd er mwyn gwirio tystiolaeth adnabod claf cyn bod gwybodaeth bersonol yn cael ei anfon.

Cadarnhaodd y Bwrdd eu bod eisoes wedi cyflwyno rhai o'r mesurau yma.