Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ffracio: Pryder diogelwch wrth i gynlluniau gael caniatad
Mae amgylcheddwyr yng Nghymru wedi ailadrodd eu gwrthwynebiad i ddull dadleuol o dyllu am nwy wedi i arbenigwyr Llywodraeth y DU ddweud y dylai'r cynllun fynd ymlaen.
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi datgan eu pryderon ynglŷn â ffracio, sy'n golygu chwistrellu tywod a hylif i'r creigiau dan ddaear i'w gwahanu a rhyddhau'r nwy.
Fe wnaeth arbenigwyr gadarnhau bod y broses wedi achosi dau ddaeargryn bach ger Blackpool y llynedd.
Dywed arbenigwyr y llywodraeth y dylid caniatáu ffracio o dan ganllawiau llym.
Y gred yw y gall nwy siâl greu cyflenwadau ynni rhad.
Mae nifer o gwmnïau am ddefnyddio dull ffracio i dyllu am y nwy gan gynnwys un safle ym Mro Morgannwg.
Daeargrynfeydd
Cafodd cais cynllunio i archwilio ac arbrofi ar y safle yn Llandŵ ei wrthod gan yr awdurdod lleol y llynedd ac fe fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ymchwiliad cyhoeddus i'r bwriad o gynnal profion i dyllu am nwy yno'r mis nesaf.
Mewn adroddiad gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth dywed panel o arbenigwyr, gafodd ei benodi gan Lywodraeth y DU, ei fod yn credu ei fod yn debygol y bydd mwy o ddaeargrynfeydd yn cael eu hachosi gan ffracio ond y byddan nhw'n rhy fach i achosi difrod adeileddol uwchben y ddaear.
Mae'r adroddiad yn argymell gosod canllawiau llym gan gynnwys monitro digwyddiadau seismig.
Fe geir cyfnod ymgynghorol o chwe wythnos i drafod yr adroddiad ac fe fydd Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn cyhoeddi canllawiau yn dilyn y cyfnod hwn.
Allyriadau carbon
Ond mae cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Gareth Clubb, wedi dweud y dylai'r broses gael ei hosgoi'n gyfan gwbl.
"Mae ein prif bryderon yn ymwneud ag allyriadau newid yn yr hinsawdd fyddai'n gysylltiedig â nwy siâl ar raddfa fawr i greu trydan," meddai Mr Clubb wrth 91Èȱ¬ Cymru.
"Rydym yn gwybod bod nwy siâl yn cynhyrchu mwy o allyriadau na nwy confensiynol ac mewn nifer o achosion y byddai'n cynhyrchu dim ond ychydig yn llai o allyriadau na glo, a mwy o allyriadau na glo mewn rhai achosion.
Honnodd Mr Clubb y gallai echdynnu nwy siâl ddefnyddio mwy na chwarter yr arian sydd wedi'i neilltuo ar gyfer allyriadau carbon yn y DU.
"Mae'n ddeniadol i Weinidogion y Cabinet feddwl bod yr holl adnoddau hyn o dan y ddaear ond pan ystyrir yr effaith ar newid hinsawdd ni ddylai'r cynllun hwn fynd yn ei flaen," meddai.
Arolygydd Cynllunio
Datganodd Mr Clubb, hefyd, bryderon diogelwch ynglŷn â ffracio.
"Nid yw chwistrellu cemegau sy'n achosi canser a chemegau eraill cas iawn i mewn i is-haenau'r ddaear yn ddull da o weithredu," meddai.
"Nid oes rhaid i gwmnïau ddatgan pa gemegau maen nhw'n eu defnyddio i'r cyhoedd."
Ym mis Ionawr eleni fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan y bydden nhw'n cynnal ymchwiliad cyhoeddus i'r bwriad o gynnal profion i dyllu am nwy ym Mro Morgannwg.
Fe wnaeth Cyngor Bro Morgannwg wrthod cais gan gwmni Coastal Oil and Gas o Ben-y-bont ar Ogwr i archwilio ac arbrofi ar y safle yn Llandŵ ar gyfer nwy siâl a nwy confensiynol.
Mae'r cwmni wedi gwneud apêl i Lywodraeth Cymru ac mae disgwyl i'r ymchwiliad gael ei gynnal ar Fai 23.
Cafodd trigolion lleol y cyfle i nodi unrhyw wrthwynebiad i'r cais gyda'r Arolygydd Cynllunio.
Mae pobl leol wedi lleisio eu pryderon y gall y profion i dyllu am nwy gael ei ddilyn gan gynllun ffracio.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru'n credu bod angen ystyried y potensial o dyllu am nwy ac ystyried y pryderon ynghylch yr effaith posib o'r math hwn o archwilio nwy.
"Oherwydd mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ganiatáu trwyddedi archwilio, ffynhonnau a datblygu meysydd fe fydden ni'n croesawi unrhyw gydweithio rhyngddynt a gweinyddiaethau datganoledig ar draws y DU i roi fframwaith polisi ar sail tystiolaeth gadarn mewn lle o ran nwy siâl yn y DU."