S4C yn trafod rhaglen Heno

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Huw Jones: 'Rhaid gwarchod safon y gwasanaeth'

Mae cyfarfod Awdurdod S4C ddydd Iau wedi trafod yr ymateb i'r amserlen newydd, yn enwedig rhaglen Heno.

Cafodd yr amserlen ei lansio ar Fawrth 1.

Dywedodd aelodau'r awdurdod eu bod "yn rhannu'r pryderon fynegwyd gan nifer fawr o wylwyr yngl欧n 芒'r rhaglen".

Yn 么l Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, "Mae gan yr awdurdod gydymdeimlad 芒 chynhyrchwyr a swyddogion wrth iddyn nhw wynebu'r her o geisio ymestyn ap锚l y gwasanaeth tra'n gweithio gyda chyllideb sydd wedi ei thorri'n sylweddol.

"Ond mae gennym ddyletswydd sylfaenol i sicrhau bod barn ein gwylwyr - yn enwedig pan gaiff ei mynegi mor groyw a chyson ag yn y dyddiau diwethaf - yn cael ei chlywed ac yn cael dylanwad ar yr hyn a welir ar y sgrin.

'Gwarchod'

"Rhaid gwarchod safon y gwasanaeth.

"Mae'r prif weithredwr wedi ymrwymo i roi'r gynulleidfa wrth galon y gwasanaeth ac rydym yn croesawu'r camau pendant y mae yn eu cymryd, mewn partneriaeth 芒 chwmni Tinopolis, i sicrhau y bydd Heno yn rhaglen fydd yn cyfrannu'n llwyddiannus at amcanion S4C ac at fwynhad gwylwyr."

Dywedodd S4C fod yr awdurdod yn disgwyl "newidiadau cadarnhaol i'r rhaglen yn y tymor byr".

Bydd adroddiad pellach am elfennau eraill yr amserlen newydd yng nghyfarfod mis Ebrill.