Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Trawsnewid' gofal cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynigion newydd i ddiwygio gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
Mae'r cynigion, medd y llywodraeth, yn cynnwys rhoi mwy o reolaeth i bobl dros y gofal y maent yn ei dderbyn a mwy o hawl i ofyn am asesiad o'u hanghenion.
Lansiodd Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol ymgynghoriad cyhoeddus ar Fesur Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru), deddfwriaeth sy'n ceisio trawsnewid y ffordd o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
Nod y Mesur arfaethedig yw rhoi mwy o ryddid i bobl benderfynu pa wasanaethau y mae eu hangen arnynt, ac ar yr un pryd cynnig gwasanaethau cyson o ansawdd da ledled y wlad.
Amcanion
Byddai'r ddeddfwriaeth arfaethedig yn:-
- Caniat谩u i Weinidogion Cymru ystyried ymestyn yr ystod o wasanaethau sydd ar gael, a hynny drwy wneud taliadau uniongyrchol. Byddai hynny'n golygu bod gan bobl fwy o reolaeth dros y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio.
- Cyflwyno meini prawf cymhwysedd cenedlaethol, gan sicrhau bod pobl yn cael eu hasesu yn 么l eu hanghenion, yn hytrach na mewn perthynas 芒'r gwasanaethau sydd ar gael yn lleol.
- Cyflwyno asesiadau symudol, sy'n golygu y bydd gan bobl yr hawl i gael gwasanaethau tebyg os byddant yn symud i rywle arall yng Nghymru, heb fod yn rhaid cael asesiad newydd o'u hanghenion os nad yw'r rheini wedi newid.
- Ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi gwybodaeth i ofalwyr am eu hawliau a'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt yn eu hardaloedd lleol.
- Creu gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol i wella canlyniadau lleoliadau plant.
Bydd camau hefyd i gryfhau r么l Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru er mwyn ategu'r newidiadau sydd wedi'u cyhoeddi eisoes i foderneiddio system gwyno'r gwasanaethau cymdeithasol.
'Pwerau newydd'
Gwnaeth y Dirprwy Weinidog y cyhoeddiad yn ystod ymweliad 芒 Chanolfan Dewis Byw'n Annibynnol ym Mhontypridd, sef mudiad gwirfoddol sy'n cefnogi hawl pobl anabl i ddatblygu eu ffordd o fyw annibynnol eu hunain.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog: "Mae'r Mesur hwn yn enghraifft wych o sut rydyn ni'n defnyddio pwerau newydd y Cynulliad Cenedlaethol i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl Cymru.
"Dydyn ni ddim yn barod i eistedd yn 么l a gwneud dim, gan weld llai a llai o bobl yn llwyddo i gael y cymorth sydd ei angen arnynt.
"Bydd y Mesur yn ei gwneud yn orfodol i ddatblygu modelau newydd ar gyfer gwasanaethau sy'n cynnal a gwella lles pobl mewn angen.
"Bydd mwy o ffocws ar wasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar, a bydd yn rhaid wrth fwy o weithio mewn partneriaeth ac integreiddio gwasanaethau o du'r awdurdodau lleol a phartneriaid eraill.
"Mae'n hanfodol bod defnyddwyr y gwasanaethau a'u gofalwyr yn rhan o'r broses, a rhaid i asesiadau ystyried y canlyniadau sydd yn bwysig iddyn nhw, yn hytrach na dim ond eu cymhwysedd i gael gwasanaeth penodol.
Bydd yr ymgynghoriad yn para am dri mis, o Fawrth 12 hyd at Fehefin 1 2012.
Ymateb
Daeth croeso i'r cyhoeddiad gan elusen Age Cymru, sydd wedi galw am i'r system gofal fod yn haws i'w ddeall fel bod y cyhoedd yn gwybod beth yw eu hawliau.
Eglurodd pennaeth polisi'r elusen, Graeme Francis: "Mae'r Mesur Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn gosod y llwyfan i bobl Cymru gael trafodaeth hanfodol ar sut y byddwn yn gofalu am rhai o bobl mwyaf bregus Cymru yn y dyfodol.
"Mae hwn yn gyfle i ddatgan yn glir beth all y cyhoedd ddisgwyl i gael o'r system, ac mae'n gyfle hefyd i adeiladu ar, a gwella, y gwasanaethau gofal sydd ar gael ar hyn o bryd, tra'n amddiffyn y gwasanaethau sy'n cael eu derbyn gan bobl anabl gydag anghenion gofal."
Meini prawf
Mae Age Cymru am i'r Mesur gyflwyno cyfres o feini prawf cymhwyster i'r gwasanaethau cymdeithasol er mwyn taclo anghysondebau yn y system bresennol.
Mae'r elusen hefyd yn galw am wasanaethau sy'n caniat谩u i bobl gael cyfle i gael adferiad llwyr wedi salwch i fod ar gael drwy Gymru.
Ychwanegodd Mr Francis: "Ar y cyfan mae'r Mesur yn gyfle i ddarparu dull cyson o ddelio gyda gofal ar draws Cymru.
"Ond y manylion sy'n bwysig, ac fe ddylai unrhyw newidiadau sicrhau bod pobl sy'n derbyn cymorth ar hyn o bryd ddim yn cael eu gadael mewn sefyllfa waeth nag ar hyn o bryd."