Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Adroddiad: Miloedd yn llai o siaradwyr Cymraeg
Mae hyd at 3,000 yn llai'n siarad Cymraeg yn rhugl bob blwyddyn, yn 么l adroddiad gafodd ei gyhoeddi gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Ac mae'r adroddiad - Darlun ystadegol o sefyllfa'r Gymraeg - gan ystadegydd y bwrdd, Hywel M Jones, hefyd yn dweud bod tua 55,000 o bobl yn mewnfudo i Gymru bob blwyddyn.
Dywed yr adroddiad fod mudo - a marwolaethau - yn effeithio'n sylweddol ar y nifer sy'n gallu siarad Cymraeg yng Nghymru.
Mae'n annhebygol, yn 么l yr adroddiad, y bydd 'na gynnydd yn y ganran sy'n medru'r Gymraeg yn y dyfodol agos.
Canfu'r adroddiad fod 363,000 o bobl yn rhugl yn y Gymraeg yn 1992.
Ond roedd y nifer hwn wedi gostwng i 317,000 erbyn 2006, gostyngiad o 46,000 dros gyfnod o 15 mlynedd.
Twf addysg
Mae'r ddogfen wedi canolbwyntio ar siaradwyr Cymraeg, eu sgiliau llythrennedd a'r defnydd gweithredol a wneir o'r iaith.
Y brif ystyriaeth oedd pa mor gynaliadwy oedd y sefyllfa bresennol a'r rhagolygon am y dyfodol oedd ei brif ystyriaeth.
Un casgliad yw bod cynnydd yng nghanran y siaradwyr Cymraeg rhwng 1991 a 2001 o ganlyniad i dwf addysg Gymraeg fel ail iaith yn yr ysgolion.
Dywed yr adroddiad hefyd fod canran y siaradwyr iaith gyntaf yn dal i godi ymhlith yr ifanc o ganlyniad i addysg Gymraeg.
Adeg Cyfrifiad 2001 roedd 20% o'r boblogaeth wedi eu geni yn Lloegr.
Gellir disgwyl bod y ganran yn uwch erbyn hyn ac yn parhau i gynyddu, yn 么l yr adroddiad.
Dosbarthiad daearyddol
Newidiodd dosbarthiad daearyddol y siaradwyr Cymraeg rhwng 1991 a 2001.
"Golygai hynny fod y tebygolrwydd y byddai siaradwr Cymraeg yn cwrdd ag un arall ar hap wedi lleihau dros y cyfnod hwnnw," medd yr adroddiad.
"Mae goblygiadau o ran defnydd yr iaith a ffurfiant cartrefi lle defnyddir y Gymraeg yn deillio o'r fath newid."
Ac mae'r ddogfen wedi dweud nad yw canlyniadau arolygon diweddar yn awgrymu y bydd cynnydd sylweddol yng nghanran siaradwyr Cymraeg yn y dyfodol agos.
Dywed yr adroddiad fod hen gadarnleoedd yr iaith Gymraeg, Ynys M么n, Gwynedd, Ceredigion a Sir G芒r yn dal yn bwysig am fod 56% o'r bobl sy'n rhugl yn yr iaith yn byw yn yr ardaloedd hyn.
Bwriad yr adroddiad yw crynhoi'r ystadegau am y Gymraeg sydd wedi cael sylw y Bwrdd Iaith dros y blynyddoedd.
'Cynhwysfawr'
"Ac eithrio beth sy'n cael ei gasglu gan rai llywodraethau, dyma'r darlun ystadegol mwyaf cynhwysfawr yn y byd o sefyllfa iaith leiafrifol felly mae'n ddogfen hynod o arwyddocaol yn hynny o beth," medd Prif Weithredwr Bwrdd yr iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones.
"Wrth adnabod y prif faterion sy'n effeithio ar y Gymraeg, mae'r ddogfen hon yn gosod man cychwyn i fesur cynnydd neu ddirywiad oddi wrtho, a bydd yn wybodaeth bwysig i Lywodraeth Cymru, Comisiynydd y Gymraeg ac i unrhyw un sy'n ymddiddori yn nyfodol yr iaith.
"Mae yna newyddion da iawn i'r Gymraeg o safbwynt addysg, gydag ysgolion Cymraeg yn cynhyrchu niferoedd uchel o siaradwyr yr iaith bob blwyddyn.
"Ar y llaw arall mae'r niferoedd sy'n defnyddio'r iaith yn gostwng.
"Yr her i'r llywodraeth yw buddsoddi adnoddau ac arian i greu'r cyd-destun fel y gall pobl ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau."