Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Tyrbinau gwynt: 200 yn protestio
Roedd dros 200 o brotestwyr yn Llangefni ddydd Mercher oherwydd y nifer gynyddol o geisiadau cynllunio am ffermydd gwynt ar Ynys M么n.
Mae dros 40 o safleoedd newydd ar Ynys M么n dan ystyriaeth ar gyfer codi tyrbinau gwynt.
Eisoes mae'r cyngor sir wedi dweud eu bod am lunio polis茂au cynllunio newydd i ddelio efo'r holl geisiadau ac y byddai cyfle cyn bo hir i bobl yr ynys roi eu barn.
Mae mudiad sy'n erbyn y datblygiadau wedi dweud y byddai mwy o dyrbinau'n "dinistrio cefn gwlad".
Yn 么l Ynys M么n yn erbyn Tyrbinau Gwynt, dyw polisi'r awdurdodau ddim yn ddigon cadarn.
Gallai rhai o'r tyrbinau fod hyd at 100 metr o uchder.
'Gor-ddatblygu'
Dywedodd y cyngor fod nifer y ceisiadau ddaeth i law yn destun pryder a'u bod yn trafod newidiadau posibl i'w polisi tyrbinau gwynt.
Yn 么l arweinydd yr awdurdod, y Cynghorydd Brian Owen: "Does neb synhwyrol eisiau gweld tyrbinau gwynt ymhob rhan o'r ynys.
"Rhaid i ni edrych ar y ceisiadau yma'n rhesymol a thrin pob cais yn 么l ei rinwedd ei hun felly.
"Mae'n bosib cael ffermydd gwynt allan yn y m么r ... rhaid i ni fod yn ofalus i beidio 芒 gor-ddatblygu gyda'r tyrbinau gwynt yma."
'Lleiafrif bach'
Dywedodd Owain Evans, llefarydd ar ran Ynys M么n Yn Erbyn Tyrbinau Gwynt: "Rwy'n meddwl ein bod ni'n rhoi'r neges drosodd i'r cynghorwyr nad ydi hyn ddim yn dderbyniol.
"Dydyn ni ddim angen datblygu'r tyrbinau anferth yma yng nghefn gwlad Ynys M么n - fe fydd yn effeithio ar ein heconomi mi, mi fydd yn effeithio ar ein tirlun ni ac mi fydd hefyd yn effeithio ar y bobl yma.
"Dydyn ni ddim yn erbyn tyrbinau bach ar dir fferm ac ati - tyrbinau o lai na 15 metr sy'n disgyn o fewn y polisi cynllunio, ond mae'r teimlad yn gryf a lleiafrif bach iawn sydd o blaid y tyrbinau anferth yma."
Os nad yw polisi'r cyngor yn newydd yn sylweddol, meddai, fe fydd yr ymgyrchu'n parhau.